Skip to main content

Aberystwyth: ail-greu'r dref ar ddechrau'r 20fed ganrif o Arweinlyfrau Ymwelwyr

Mae'r casgliad hwn yn gynnyrch prosiect hanes lleol a ddechreuodd er mwyn gweld faint o'r lleoedd hynny a oedd o ddiddordeb i ymwelwyr 100 mlynedd yn ôl sydd wedi goroesi yn y dref heddiw. Erbyn dechrau'r 1900au, roedd Aberystwyth yn cael ei galw yn ' Biarritz Cymru ' am ei llu o fanteision naturiol gwych fel cyrchfan iechyd a phleser. Darparodd dyfodiad y rheilffordd symbyliad ar gyfer datblygu twristiaeth.

Wrth geisio ail-leoli'r lleoedd a'r busnesau sy'n ymddangos mewn arweinlyfrau cynnar i ymwelwyr, daeth yn amlwg bod nifer o adeiladau eiconig y dref yn dal gyda ni heddiw - hyd yn oed os yw'r hysbysfyrddau a'r defnydd a wneir o'r adeiladau wedi newid. Mae rhai adeiladau nodedig ar goll, megis y baddonau cyhoeddus yn stryd Caerfaddon, yr ysbyty a'r ysgol ar Heol y Frenhines, Capel y Tabernacl a'r tŷ golchi stêm yn Mill Street, yr hen rinc yn Heol Portland, y tiroedd pleser ar ben Craig Glais, sinema'r Imperial, a diwydiannau Smithfield a Threfechan.

Y ddau gyfeirlyfr a ddefnyddiwyd oedd ' Borough Guide No 143 ' a gyhoeddwyd gan Edward J. Burrows Co tua 1905 (casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru XDA1345. A3. A14) a'r ' Aberystwyth Official Guide and Souvenir ' a gyhoeddwyd gan gwmni cyhoeddi British Publishing Company Ltd, Caerloyw, yn 1924. Ailargraffwyd argraffiad ffacsimili o'r gyfrol olaf hon gan Archifdy Ceredigion a Gwasg y Gors yn 2015. Mae cryn dipyn o swyn yn perthyn i'r ddwy ohonynt, ac maent yn cynnwys ffotograffau o'r dref fel yr oedd bryd hynny.

Mae yna arweinlyfrau cynnar i dwristiaid ar gyfer cyrchfannau eraill o amgylch Cymru. Y gobaith yw y bydd y casgliad hwn yn ysbrydoli eraill i gyrchu'r arweinlyfrau yma yn eu llyfrgelloedd a'u harchifdau lleol a mynd ati i chwilota yn y trefi maen nhw'n eu hadnabod a'u caru.

Gwelediadau:
1659
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
24/05/2020

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment