Photoscot 2020: Neuadd Eglwys Sant Mihangel, Aberystwyth
Photoscot 2020: Neuadd Eglwys Sant Mihangel, Aberystwyth
Disgrifiadau
Nodir yn yr 'Aberystwyth Official Guide and Souvenir', a gyhoeddwyd gan Gorfforaeth Aberystwyth ym 1924, fod Neuadd y Plwyf yn Maes Mihangel yn lle ar gyfer adloniant a chyngherddau, ac ati. Mae llinlun o'r neuadd mewn hysbyseb yn y tywyslyfr i'r adeiladwyr R & H L Owen. Roedd swyddfa'r cwmni adeiladwyr yma yn 36a Stryd y Frenhines ac fe'u disgrifir fel Adeiladwyr, Contractwyr ac Addurnwyr, Peiriannwyr Glanweithdra a Gwresogi. Mae'r llinlun yn nodi mai pensaer y neuadd oedd G T Bassett, RIBA. Uwchben y drws mae panel addurnedig yn dangos dyddiad adeiladu'r neuadd, sef 1914.
Ffynhonnell allanol:
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment