Creative Commons 4.0
Mae hon yn drwydded agored a ddefnyddir i ganiatáu pobl rannu a defnyddio gweithiau creadigol o dan amodau penodol a osodir gan y crëwr. Gall yr union delerau amrywio (er enghraifft, mae rhai yn caniatáu addasiadau, eraill ddim), ond mai'n ofynol ar bob un drwydded bod cydnabyddiaeth i'r crëwr yn cael ei roi. Mae Creative Commons 4.0 yn ddilys yn rhyngwladol ac wedi'i gynllunio i fod yn glir ac yn hawdd ei ddilyn.
CC BY 4.0 - Priodoliad 4.0 Rhyngwladol
Amodau'r drwydded sydd ar gael ar Casgliad y Werin Cymru yw Trwydded Attribution 4.0 International Creative Commons.
Mae'r drwydded CC BY 4.0 yn un o'r trwyddedau Creative Commons mwyaf hyblyg. Mae'n caniatáu i eraill:
- Rhannu — copïo ac ailddosbarthu'r deunydd mewn unrhyw gyfrwng neu fformat
- Addasu — ailgymysgu, trawsnewid ac adeiladu ar y deunydd
- Defnyddio'n fasnachol neu'n anfasnachol
Yr unig ofyniad yw priodoli: rhaid i chi roi cydnabyddiaeth i'r crëwr mewn ffordd glir a phriodol, nodi a wnaed newidiadau, a darparu dolen i'r drwydded.
Ewch i weld Trwydded Attribution 4.0 International Creative Commons lawn i gael rhagor o fanylion.
O dan y telerau canlynol:
- Priodoliad — Rhaid i chi roi credyd priodol , darparu dolen i'r drwydded, a nodi a wnaed newidiadau . Gallwch wneud hynny mewn unrhyw ffordd resymol, ond nid mewn unrhyw ffordd sy'n awgrymu bod y trwyddedwr yn eich cymeradwyo chi na'ch defnydd.
- Dim cyfyngiadau ychwanegol — Ni chewch gymhwyso telerau cyfreithiol na mesurau technolegol sy'n cyfyngu'n gyfreithiol ar eraill rhag gwneud unrhyw beth y mae'r drwydded yn ei ganiatáu.
Hysbysiadau:
Nid oes rhaid i chi gydymffurfio â'r drwydded ar gyfer elfennau o'r deunydd sydd yn y parth cyhoeddus neu lle mae eich defnydd wedi'i ganiatáu gan eithriad neu gyfyngiad perthnasol.
Ni roddir unrhyw warantau. Efallai na fydd y drwydded yn rhoi'r holl ganiatadau sy'n angenrheidiol i chi ar gyfer eich defnydd bwriadedig. Er enghraifft, gall hawliau eraill fel cyhoeddusrwydd, preifatrwydd, neu hawliau moesol gyfyngu ar sut rydych chi'n defnyddio'r deunydd.