Rhannu
Rhannwch eich stori a helpwch lunio hanes Cymru
Mae eich atgofion yn bwysig. Wrth lwytho ffotograffau, fideos neu straeon i Gasgliad y Werin Cymru, rydych yn cyfrannu at gofnod byw o fywyd yng Nghymru - y bobl, y lleoedd a’r eiliadau sy’n adlewyrchu ein bywydau.
Drwy rannu eich cynnwys, rydych yn helpu i ddathlu eich cymuned a’ch treftadaeth, gan sicrhau bod straeon bob dydd yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’n hawdd dechrau. Crëwch gyfrif, uwchlwythwch eich ffeiliau, a dechreuwch rannu eich hanes.
Angen help?
Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech gymorth, cysylltwch â ni - rydyn ni yma i’ch cefnogi.
Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant am ddim i unigolion a grwpiau ledled Cymru i’ch helpu ar eich taith ddigido.