Skip to main content
windrush

Pam fod dad-drefedigaethu'n bwysig

Nod dad-drefedigaethu yw dadwneud effeithiau annheg trefedigaethu, a sicrhau y caiff pob diwylliant a stori ei ddathlu.

Mae gwaith Casgliad y Werin Cymru yn mynd y tu hwnt i warchod hanes. Rydyn ni eisiau rhannu straeon cynhwysol, go iawn. Mae dad-drefedigaethu yn cyffwrdd â mwy na hiliaeth. Y nod yw mynd i'r afael â rhagfarnau megis rhywiaeth, ableddiaeth, homoffobia, trawsffobia, anoddefgarwch crefyddol, rhagfarn ar sail dosbarth cymdeithasol a mwy.

Nid ail-ysgrifennu hanes yw bwriad dad-drefedigaethu, ond ei gyflwyno gyda thryloywder ac yn ei gyd-destun. Rydyn ni eisiau sicrhau bod lle i bob llais a stori yn ein casgliad.

Y camau nesaf yng Nghasgliad y Werin Cymru

Rydyn ni eisiau rhoi llwyfan i straeon amrywiol Cymru. Mae cyfraniad pawb yn werthfawr, ac rydyn ni'n gweithio'n galed i sicrhau bod ein Casgliad mor gynhwysol â phosib. Er bod defnyddwyr yn cyfrannu llawer o eitemau, rydyn ni yma i'w harwain er mwyn sicrhau cynrychiolaeth gytbwys.

Gallwch chi ddarllen ein hymrwymiad yn ein Siarter.

Adnoddau i'ch helpu chi – a'n helpu ni!

Rydyn ni wedi creu pecyn cymorth defnyddiol i chi. Gall y canllaw eich helpu i wirio'r cynnwys rydych chi wedi, neu eisiau ei rannu, i sicrhau ei fod yn rhydd o ragfarn. Y nod yw gwneud i chi deimlo'n hyderus am eich cyfraniadau.

Defnyddiwch ein pecyn cymorth (PDF)  i gyfoethogi eich straeon, a'u gwneud nhw’n fwy cynhwysol fyth.

Dewch i wneud gwahaniaeth

Rydyn ni bob amser yn awyddus i wella, ac felly rydyn ni angen eich help chi! Rydyn ni eisiau cyflwyno hanes yn glir, gyda pharch i bawb sy'n rhan ohono. Dyma sut allwch chi helpu:

  • Rhoi gwybod am unrhyw gynnwys sarhaus ar y wefan.
  • Golygu eich straeon gyda lens cytbwys.
  • Rhannu eich straeon cynhwysol.

Oes gennych chi gwestiynau? ⁠Cysylltwch â ni unrhyw bryd.

Prydferthwch Geiriau

Mae geiriau'n bwerus! Gallan nhw godi pontydd neu waliau. Dyna pam ein bod ni'n cyflwyno’r Rhestr o Derminoleg Gynhwysol gafodd ei chreu gan y Cultural Heritage Terminology Network. Mae'r adnodd hwn wedi'i greu i helpu pobl sy'n ymddiddori yn nhreftadaeth y DU i sylwi ar iaith ragfarnllyd mewn gwahanol ddeunyddiau, a'i chywiro.

Eisiau manteisio ar yr adnodd hwn? Dechreuwch gyda'r Pecyn Gwybodaeth, cyn symud ymlaen i'r Rhestr Derminoleg. Gweler y gwahaniaeth y gall y teclyn hwn ei wneud wrth i ni rannu straeon cynhwysol.

Dewch i sicrhau bod hanes wir yn cynrychioli pawb.