Metadata
Beth yw Metadata?
Metadata yw'r wybodaeth sy'n disgrifio, yn egluro, ac yn rhoi cyd-destun i adnodd — fel ffotograff, dogfen, recordiad, neu wrthrych. Mae'n dweud wrth bobl beth yw rhywbeth, o ble mae'n dod, pwy a'i creodd, a sut y gellir ei ddefnyddio. Ar Gasgliad y Werin Cymru, mae metadata yn gwneud y canlynol:
- Yn gwneud eich eitemau'n hawdd eu darganfod trwy helpu eraill i ddod o hyd iddynt trwy offer chwilio a phori
- Yn darparu cyd-destun hanfodol fel y gall defnyddwyr ddeall a dehongli eich deunydd yn gywir
- Yn sicrhau bod eich cyfraniadau'n ddefnyddiol ac yn ailddefnyddiadwy gan eraill, gan gynnwys ymchwilwyr, addysgwyr, a grwpiau cymunedol
Yn fyr: metadata yw'r hyn sy'n cysylltu eich cynnwys â'r byd ehangach. Mae'n troi eitemau unigol yn adnoddau hygyrch, chwiliadwy ac ystyrlon y gall eraill ddod o hyd iddynt, eu deall, ac adeiladu arnynt.
Pa fetadata ddylwn i ei gynnwys gyda fy eitemau?
Mae metadata da yn helpu eraill i ddod o hyd i'ch eitemau, eu deall a'u hailddefnyddio. Wrth ychwanegu eitemau at y wefan, ceisiwch gynnwys cymaint o wybodaeth gywir a manwl â phosibl. Dylech o leiaf ddarparu:
- Teitl – Teitl clir a disgrifiadol sy'n nodi'r eitem. Rydym yn argymell fformat 'Pwy, Beth, Ble, Pryd', er enghraifft "Mrs Jones yn godro gafr, Caerfyrddin, 1962"
- Disgrifiad – Crynodeb cynhwysfawr sy'n egluro beth mae'r eitem yn ei ddangos neu'n ei gynrychioli. Cofiwch gynnwys pethau fel enwau pobl, lleoliadau a chyd-destun hanesyddol
- Dyddiad – Pryd y crëwyd, y cofnodwyd, neu'r dyddiad mwyaf perthnsol i'r eitem
- Lleoliad – Ble y crëwyd, y canfuwyd, neu ble mae'r eitem yn ymwneud â hi
- Creawdwr – Y person neu'r sefydliad a greodd yr eitem, fel y ffotograffydd, yr awdur neu'r artist
- Perchennog - Y person neu'r sefydliad sy'n berchen ar yr eitem heddiw
- Gwybodaeth am hawliau – Pwy sy'n berchen ar yr hawlfraint a sut y gellir defnyddio'r eitem
Po fwyaf cyflawn yw eich metadata, y mwyaf defnyddiol a gweladwy fydd eich eitem i eraill.
Ystyriaethau Moesegol a Diwylliannol
Wrth rannu deunyddiau personol neu gymunedol, mae'n bwysig ymddwyn yn gyfrifol ac yn barchus, gan gofio ystyriaethau moesegol, diwylliannol a phreifatrwydd.
- Preifatrwydd – osgoi cyhoeddi gwybodaeth bersonol neu sensitif heb ganiatâd
- Cynrychiolaeth – sicrhau bod pobl a chymunedau'n cael eu portreu gyda pharch
- Caniatâd – os ydych chi'n recordio cyfweliadau, cymerwch ganiatâd ysgrifenedig ar gyfer pob defnydd a fwriadwyd
- Sensitifrwydd diwylliannol – gall rhai delweddau neu straeon fod ag arwyddocâd arbennig; ymgynghorwch ag aelodau'r gymuned cyn rhannu
Am ragor o wybodaeth am fetadata a chynnwys sensitif neu dramgwyddus, gweler ein Pecyn Cymorth Dad-wladychu.
Beth am Fetadata Technegol?
Metadata technegol yw'r wybodaeth sy'n cofnodi nodweddion digidol ffeil neu wrthrych — fel ei fformat, ei faint, ei cydraniad, neu'r offer a ddefnyddir i'w greu. Mewn cyd-destun archifol, mae'r data hwn yn helpu i sicrhau y gellir rheoli, cadw a chael mynediad at eitemau digidol dros amser. Ar Gasgliad y Werin Cymru, mae metadata technegol yn gwneud y canlynol:
- Yn cofnodi manylion allweddol fel math o ffeil, dimensiynau, hyd a chyfradd ddidol ('bit-rate')
- Yn helpu archifwyr i gynnal dilysrwydd a chyfanrwydd ffeiliau digidol
- Yn cefnogi cadwraeth hirdymor trwy ddarparu gwybodaeth sydd ei hangen ar gyfer mudo neu drosi ffeiliau
- Yn sicrhau y gellir arddangos ac ailddefnyddio eitemau'n gywir mewn systemau yn y dyfodol
Yn fyr: metadata technegol yw'r hyn sy'n cadw treftadaeth ddigidol yn ddefnyddiadwy ac yn ddibynadwy. Mae'n cadw'r wybodaeth hanfodol sy'n caniatáu i ffeiliau digidol aros yn hygyrch, yn ddibynadwy ac yn ystyrlon am flynyddoedd i ddod.
Nid oes angen i chi gyhoeddi metadata technegol gyda'ch eitemau ar Gasgliad y Werin Cymru, ond mae'n bwysig eich bod yn ystyried metadata technegol wrth greu eich archif ddigidol eich hun i sicrhau bod eich deunydd yn gydnaws â defnydd yn y dyfodol.
Enghreifftiau o fetadata
Enghraifft 1
Hoffech chi gyhoeddi llun o'ch Mamgu a Thadcu ar ddiwrnod eu priodas. Gallai metadata addas gynnwys:
- Teitl – David a Siriol Jones ar ddiwrnod eu priodas, eglwys San Pedr, Caerfyrddin, 1948
- Disgrifiad – Llun o David Jones a Siriol Jones (ganwyd Phillips) ar ddiwrnod eu priodas, yn sefyll y tu allan i eglwys San Pedr yng Nghaerfyrddin ym 1948. Cyfarfu'r cwpl mewn dawns yn Sefydliad y Gweithwyr lleol ar Heol Gŵyr ac roeddent yn briod am 51 mlynedd.
- Dyddiad – 06/10/1948
- Lleoliad – Caerfyrddin
- Crëwr – Stiwdio Ffotograffig F. Jenkins
- Perchennog - Bethan Jones
I gyfoethogi'ch eitem ymhellach, efallai y byddech chi'n ystyried cyhoeddi copi o'u tystysgrif priodas neu lun o'r cwpl yn ddiweddarach mewn bywyd.
Enghraifft 2
Hoffech chi gyhoeddi rhan o gyfweliad hanes llafar a recordiwyd yn eich cymuned leol. Gallai metadata addas gynnwys:
- Teitl – Rhan o gyfweliad gydag Aziz Ibrahim, Bangor, 2012
- Disgrifiad – Rhan o gyfweliad gydag Aziz Ibrahim, a recordiwyd gan brosiect Treftadaeth Gymunedol Bangor yn 2012. Yn y cyfweliad hwn, mae Aziz yn trafod ei blentyndod ym Mhenrhosgarnedd, ei angerdd dros arddio a'i waith gyda Chymdeithas Arddwriaethol Bangor. Mae themâu eraill a drafodir yn y cyfweliad hwn yn cynnwys bwyd, hil, pêl-droed ac amser hamdden ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
- Dyddiad – 14/07/2012
- Lleoliad – Bangor
- Crëwr – Treftadaeth Gymunedol Bangor
- Perchennog - Treftadaeth Gymunedol Bangor
I gyfoethogi eich eitem ymhellach, efallai y byddech chi'n ystyried ychwanegu trawsgrifiad llawn o'r cyfweliad, yn ogystal â ffotograffau o Aziz yn y gwaith ac yn y cartref.
Enghraifft 3
Hoffech chi gyhoeddi erthygl papur newydd rydych chi wedi dod o hyd iddi mewn llyfrgell leol. Gallai metadata addas gynnwys:
- Teitl – Erthygl 'Llong Norwyaidd wedi'i Thorpido', Welsh Gazette, 1918
- Disgrifiad – Erthygl papur newydd o'r enw "Llong Norwyaidd wedi'i Thorpido, Deuddeg o'r Criw ar Goll" o'r Welsh Gazette a gyhoeddwyd ar 06/03/1918. Mae'r erthygl yn darllen:
"Glaniwyd y capten a phump o oroeswyr criw'r llong Norwyaidd Havna (1,153 tunnell) nos Lun, ar ôl i'w llong gael ei thorpido a'i suddo gan long danfor Almaenig. Mae deuddeg o'r criw ar goll, ac nid oes gan y capten unrhyw amheuaeth bod un ar ddeg o'r rhain wedi boddi. Cafodd y llong ei thorpido heb rybudd, a suddodd mewn llai na munud. Dywedodd y capten fod y goroeswyr wedi drifftio am hanner cant awr ar rafft cyn cael eu hachub. Mynegodd y dynion ddicter at weithred annynol yr Almaenwyr, na wnaeth unrhyw ymdrech i achub yr un ohonynt." - Dyddiad – 06/03/1918
- Lleoliad – Môr Iwerddon
- Crëwr – Welsh Gazette
- Perchennog - Llyfrgell Ganolog Caerdydd
I gyfoethogi eich eitem ymhellach, efallai y byddech chi'n ystyried cyhoeddi ffotograff o'r llong neu wybodaeth am rai o'r morwyr.
Mae Casgliad y Werin Cymru yn cynnig hyfforddiant am ddim i sefydliadau, grwpiau cymunedol ac unigolion i'w helpu i gasglu a chyhoeddi deunydd gyda metadata archifol cyfoethog. Am ragor o wybodaeth neu arweiniad, mae croeso i chi gysylltu â ni.