Skip to main content
baner_about us

Mae Casgliad y Werin Cymru (CyW) yn archif ddigidol genedlaethol sy'n cadw ac yn rhannu hanesion amrywiol Cymru. Mae'n cynnig platfform hygyrch i sefydliadau, prosiectau cymunedol ac unigolion gyhoeddi deunydd treftadaeth ac adrodd eu straeon yn eu geiriau eu hunain. Mae CWC yn cael ei arwain gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Beth ydym ni'n ei wneud?

Ochr yn ochr â'n platfform cyhoeddi, rydym yn darparu canllawiau am ddim ar bob cam o'r broses archifo—o hawlfraint ac ystyriaethau cyfreithiol i ddigideiddio a churadu digidol. Mae'r gefnogaeth hon ar gael i bob prosiect, sefydliad ac unigolyn sy'n dymuno rhannu eu deunydd hanesyddol.

Hyfforddiant a Chymorth

Digido

Rydym yn cynnig hyfforddiant am ddim, wedi'i deilwra sy'n cwmpasu pob agwedd ar ddigido eich casgliadau. Dysgwch am hawlfraint, diogelu data, ystyriaethau moesegol, metadata, a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ddigido deunydd yn hyderus.

Dysgwch fwy am ein Hyfforddiant Digido
 

Hanes Llafar

Rydym yn cynnig cyflwyniad i brosiectau hanes llafar, gan gynnwys paratoi ar gyfer cyfweliadau, ystyriaethau moesegol a chyfreithiol, hyfforddiant ymarferol gydag offer recordio, ac arweiniad ar greu crynodebau a metadata archifol.

Dysgwch fwy am ein Hyfforddiant Hanes Llafar

Benthyciad Offer

Rydym yn cynnig benthyciadau offer tymor byr am ddim i'ch helpu i gyflawni eich amcanion digideiddio neu hanes llafar. Mae croeso i chi gysylltu â ni am gyngor os ydych chi'n bwriadu prynu eich offer eich hun ar gyfer prosiectau hirach.

Ein Gwaith

Ein hanes

Tarddiad

Ers ei sefydlu yn 2010, mae Casgliad y Werin Cymru wedi cefnogi dros filoedd o brosiectau ac unigolion i rannu eu straeon treftadaeth ac ychwanegu haen arall at hanes cymdeithasol cyfoethog Cymru. Rydym yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn falch o weithio ochr yn ochr ag ystod eang o archifau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a grwpiau cymunedol i ddathlu amrywiaeth, hunaniaeth a chynhwysiant.

Y tri sefydliad partner blaenllaw yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, a Chomisiwn Brenhinol Henebion Hynafol a Hanesyddol Cymru.

Perthnasedd

Mae gan Casgliady Werin gylch gwaith eang, democrataidd a chynhwysol, sef cipio ac adlewyrchu hanesion amrywiol Cymru a'i phobl. Mae hyn yn golygu, ar wahân i'r angen i gysylltu â Chymru, bywyd Cymru neu bobl Cymru, y gellir dehongli'r cylch gwaith hwn mewn myrdd o ffyrdd.

Yn gyntaf oll, nod y Casgliad yw grymuso pobl Cymru i gasglu, curadu a chyflwyno eu hanesion eu hunain. Mae'n gasgliad deinamig yn yr ystyr ei fod yn cael ei ddefnyddio gan, ac yn ystyrlon i, ystod eang o bobl, sy'n galluogi gwahanol safbwyntiau i gael eu clywed ac amrywiaeth o straeon i gael eu hadrodd.

Drwy gyfuno cynnwys sefydliadol a chynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, mae Casgliad y Werin Cymru yn annog lleisiau amrywiol i gyd-greu'r Casgliad a phenderfynu beth sy'n berthnasol ac yn bwysig, beth sy'n ffurfio hanes pobl Cymru. Mae'r Casgliad, yn ei gyfanrwydd, o bwys cenedlaethol a rhyngwladol yn union oherwydd ei fod yn cynnwys y personol a'r rhanbarthol.

Y tîm

Tîm bach o unigolion ydym ni sy'n helpu i ddarparu cartref digidol i Gymru—rydym yn dod ag egni ac angerdd i gadw eich straeon a'ch atgofion.

Mae'r tîm hwn yn gyfrifol am gynnal a chadw technegol a datblygu'r platfform digidol; am y cymedroli, yr hyfforddiant a'r gefnogaeth a gynigir i ddefnyddwyr; ac am hyrwyddo'r Casgliad i gynulleidfa mor eang â phosibl.

Rydym yn angerddol am ddathlu diwylliant a threftadaeth Cymru ac yn credu bod gan bawb ddarn o'r jig-so sy'n adrodd stori Cymru, boed yn atgof, llythyr, hen ffotograff, neu recordiad. Rydym am helpu i gofnodi a rhannu'r straeon hyn sydd yn aml yn anhysbys ar ein gwefan i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau.