Hyfforddiant Digido
Mae Casgliad y Werin Cymru yn darparu hyfforddiant am ddim, wedi'i deilwra i gefnogi pob cam o'r broses archifol, gan eich helpu i rannu a dathlu eich casgliadau hanesyddol gyda'r gynulleidfa ehangaf bosibl.
Mae ein hyfforddiant yn cwmpasu pedair elfen graidd llif gwaith digideiddio:
- Hawlfraint
Datblygu dealltwriaeth glir o agweddau cyfreithiol archifo. Dysgwch sut i glirio hawlfraint, cymhwyso'r drwydded gywir, a sicrhau y gellir rhannu eich deunydd yn ddiogel ac yn briodol.
- Metadata
Darganfyddwch sut i strwythuro metadata fel bod eich deunydd yn hygyrch, yn ddarganfyddadwy, ac yn werthfawr i ymchwilwyr y dyfodol. Dysgwch ffyrdd ymarferol o wella defnyddioldeb eich eitemau archifol.
- Digido
Archwiliwch arferion gorau ar gyfer creu copïau digidol o ansawdd archifol, gan gynnwys calibreiddio offer sganio i gynhyrchu ffeiliau parhaol o safon uchel.
- Cyhoeddi
Cyngor ar guradu eich eitemau yn Gasgliadau a Straeon i ddatblygu adnoddau cyfoethog, defnyddiol i eraill eu darganfod.
Mae'r hyfforddiant ar agor i bob prosiect, sefydliad ac unigolyn, ac mae pob sesiwn wedi'i haddasu i gwrdd a'ch hanghenion.
I drefnu sesiwn neu gael gwybod mwy, Cysylltwch â ni.