Skip to main content

Diogelu Data

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn gennych chi, ac rydym yn defnyddio technolegau newydd a meddalwedd amgryptio i ddiogelu eich data. Mae gweddill y datganiad hwn yn ymroddedig i wneud yn glir pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol a bydd yn egluro'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud.

Mae Casgliad y Werin Cymru (CYW) yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol a'r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Ni fydd CYW yn defnyddio'ch data at unrhyw ddiben heblaw am reolaeth chynnal a chadw'r wefan/archifau a chyfathrebu â chi. Er ein bod yn defnyddio trydydd parti i'n helpu ni i gyflwyno'r gwasanaeth, ni allant ddefnyddio'ch data at unrhyw ddiben arall.

Eich hawliau

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac fel unigolyn mae gennych nifer o hawliau. Gallwch chi:

  • cael mynediad a chopi o'ch data ar gais;
  • gofyn i ni newid data anghywir neu anghyflawn;
  • gofyn i ni ddileu neu roi'r gorau i brosesu eich data lle rydym yn dibynnu ar naill ai'ch caniatâd neu ein buddiannau cyfreithlon ein hunain fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu.

Rydym yn cymryd unrhyw gwynion a gawn am hyn yn ddifrifol iawn. Rydym yn annog pobl i ddod â'n sylw ato os ydynt o'r farn bod ein casgliad neu ddefnydd o wybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol. Byddem hefyd yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella ein gweithdrefnau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffordd yr ydym yn defnyddio'ch data, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data dros Ebost neu ysgrifennwch at:

Casgliad y Werin Cymru
G/O Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth, Ceredigion SY23 3B

I ddeall mwy am eich hawliau, darllenwch Your Data Matters, gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).