Photoscoot 2020: Harbwr Aberystwyth
Photoscoot 2020: Harbwr Aberystwyth
Disgrifiadau
Nodwyd yn 'Tywyslyfr y Fwrdeistref', a gyhoeddwyd gan Gyngor Tref Aberystwyth a Chwmni Edward J Burrows, fod yr harbwr mewnol wedi ei ffurfio gan afon Rheidol, a bod afon Ystwyth yn llifo drwy sianel artiffisial i gyfuno â'r Rheidol cyn cyrraedd y môr. Effaith y toriadau, y pier 260 llath a gweithfeydd eraill oedd lleihau'r rhwystr oedd yn cael ei greu gan y bar wrth aber y ddwy afon. Adeg hynny roedd yr harbwr yn cwmpasu ugain erw, oedd yn caniatáu i gargo hyd at 25,000 tunell gael ei fewnforio a'i allforio. Roedd yr allforion yn cynnwys mwynau, rhisgl, pren a grawn. Bwydydd a phren oedd y mewnforion yn bennaf.
Ffynhonnell allanol:
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment