Photoscot 2020: Cewyll cimychiaid, harbwr Aberystywth
Photoscot 2020: Cewyll cimychiaid, harbwr Aberystywth
Disgrifiadau
Mae'r 'Borough Guide' a gyhoeddwyd gan Gyngor Tref Aberystwyth a Chwmni Edward J Burrows, yn nodi cyfleoedd pysgota ar gyfer y pysgotwr-môr brwdfrydig. Y prif math o bysgod gai eu dal yn y bae oedd draenog-y-môr (o Fai hyd Gorffennaf), hyrddyn (o Fai hyd Awst), mecryll (yn ystod Gorffennaf ac Awst) a môr-wyniad (o Fedi hyd Mawrth). Noda'r Teithlyfr ei bod yn bosib cael caniatâd i ymuno â'r llongau pysgota oedd yn hwylio rhwng Aberystwyth a Cheinewydd ac yn dal cyflenwad ardderchog o leden, lleden fannog, lleden arw a lleden wadn. Mae'r llongau pysgota sy'n hwylio o'r harbwr dyddiau yma yn canolbwyntio ar rywogaethau gwahanol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment