Photoscot 2020: Neuadd y Dre, Morfa Mawr, Aberystwyth
Disgrifiadau
Yn 'Tywyslyfr y Fwrdeistref', a gyhoeddwyd gan Gyngor Tref Aberystwyth a Chwmni Edward J Burrows tua 1905, nodir fod y dref yn cael ei rheoli o dan siarter a sefydlwyd gan Hari IV, gan Faer, pedwar Henadur a deuddeg Cynhorydd. Mae'r arweinlyfr yn nodi, ymysg y datblygiadau, perffeithio system carthffosiaeth, cyflwyno cyflenwad dŵr ardderchog o Lyn Llygad Rheidol a gosod goleudau trydan ar y brif strydoedd. Nodir yn ychwanegol fod menter yr awdurdodau lleol wedi dwyn ffrwyth ar ei ganfed, fel y gwelir yn nifer yr ymwelwyr sy'n chwilio am bleser ac iechyd sy'n mynychu'r dref yn ystod misoedd yr haf.
Roedd yn bosib cael rhestr o westai, lletyau, tai gosod, tafarndai a rhandai preifat yn rhad ac am ddim gan R J Jones, Rheolwr, Swyddfa Cyhoeddusrwydd, Neuadd y Dref. Os am gopi o'r Twyslyfr Swyddogol a Chofrodd , gofynwyd am 3d tuag at y cludiant.
Pen uchaf Y Stryd Fawr oedd safle gwreiddiol Neuadd y Dref, ond fe'i symudwyd i safle newydd ar y Morfa Mawr ym 1848-51 i adeilad gynlluniwyd gan y pensaer William Coulthart. Aeth yr adeilad ar dân ym 1957; a chodwyd yr adeilad presennol ym 1961 i gynllun S Colwyn Foulkes o Fae Colwyn. Y llyfrgell gyhoeddus a'r archifdy sydd bellach yn yr adeilad yma.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment