Photoscot 2020: Y Pier Brenhinol a'r Pafiliwn, Aberystwyth
Disgrifiadau
Adeiladwyd y pier gwreiddiol ym 1865 i gynllun Eugenius Birch o Lundain. Yr hyd gwreiddiol oedd 800 troedfedd (244m) ond cafodd ei ddifrodi mewn storm, ei ail godi a'i ailagor ym 1872 yn 700 troedfedd (213m) o hyd. Mae'r 'Borough Guide', a gyhoeddwyd gan gwmni Edward J Burrows yn nodi dyddiad mwy diweddar i'r pafiliwn. Ychwanegwyd y pafiliwn ym 1896 gan G. Croydon Marks o Lundain ar anogaeth Cwmni Gwelliant Aberystwyth. Mae'r tywyslyfr yn nodi bod gan y pier safle band ar y pen pellaf a bod pafiliwn eang i 1500 o bobl ar gyfer cyngherddau ac adloniant. Roedd goleadau trydan yn y pier a'r pafiliwn, a gyda'i gilydd roeddynt yn ffurfio'r ganolfan adloniant mwyaf poblog a ffasiynol yn y dre. Cwtogwyd y pier i'w hyd presennol, 298 troedfedd (91m) yn 1938 ar ôl i stormydd a môr garw ei ddifrodi.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment