Photoscot 2020: Gynt Banc y National Provincial, 2 Rhodfa'r Gogledd, Aberystwyth
Disgrifiadau
Mae'r map oedd yn gynnwysedig yn yr ''Aberystwyth Official Guide and Souvenir' a gyhoeddwyd gan Gorfforaeth Aberystwyth ym 1924 yn dangos Banc y National Provisional ar y cornel yma. Nodir mewn hysbyseb yn y tywyslyfr fod y prif swyddfa yn Bishopsgate a bod gan y banc dros 1,100 o swyddfeydd yng Nghymru a Lloegr. Adeiladwyd y banc yma yn 1903 gan W W Gwyther o Lundain. Gwelir tarian yn dangos y llythrennau 'NPB' ar y ffasâd. Chwaraeodd Banc y National Provincial ran blaenllaw yn sefydliad y gyfundrefn bancio masnachol sydd ar gael heddiw yng Nghymru a Lloegr. Roedd yn weithredol o 1833 tan 1970 pan gafodd ei gyfuno i ffurfio Banc y National Westminster. Fe'i crëwyd yn benodol i gynnal busnes yn y canghennau tu allan i Lundain ac ar gyfer nifer fawr o gyfrifon bach. Mae'r adeilad bellach yn Adeilad Rhestredig Gradd II.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment