Skip to main content

Photoscot 2020: Pont Trefechan, Aberystwyth

Disgrifiadau

Cyfeirir at y bont gywrain tri-bwa dros afon Rheidol yn y 'Borough Guidef' a gyhoeddwyd gan Gyngor Tref Aberystwyth a Chwmni Edward J Burrows. Ceir llun o 'Bont Trefechan' yn yr 'Aberystwyth Official Guide and Souvenir', a gyhoeddwyd gan Gorfforaeth Aberystwyth ym 1924. Hon oedd y drydedd pont i gael ei hadeiladu dros y Rheidol, fe'i codwyd ym 1888 gan David Lloyd o Aberystwyth i gynllun Sir James Szlumper. Cafodd y bont gyntaf ei dinistrio gan lifogydd ym 1796. John Nash, y pensaer enwog, gynlluniodd yr ail. Roedd John Nash yn bensaer blaengar yn ystod y cyfnod Rhaglywiaeth a'r cyfnod Sioraidd, gyda Palas Buckingham, Stryd Regent a Marble Arch yn Llundain ymysg ei gynlluniau mwyaf enwog. Yn ystod y cyfnod 1784 i 1795 roedd yn byw yng Nghaerfyrddin ac yn ymgymeryd â chomisiynau oedd yn cynnwys nifer o dai bonedd maint canolig fel yr hen Dŷ Castell yn Aberystwyth (sydd bellach yn ran o'r Hen Goleg) a Llanerchaeron. Agorwyd ei bont ym 1800 ond cafodd honno hefyd ei dinistrio gan lifogydd ym 1886.

Owner:
Deanna Groom
Crëwr:
Deanna Groom
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2020
Eitem wedi’i llwytho:
21/5/2020
Date originally created:
10/3/2020
Gwelediadau:
652
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment