Photoscot 2020: Cyn safle'r Farchnad a Sinema Stryd y Farchnad, Aberystwyth
Disgrifiadau
Mae'r map sy'n gynwysedig gyda'r 'Borough Guide' a gyhoeddwyd gan Gyngor Tref Aberystwyth a Chwmni Edward J Burrows tua 1905, yn dangos bod neuadd Farchnad yn y safle yma. Marchnad neu Gyfnewidfa Ŷd oedd yr adeilad, gafodd ei adeiladu yn 1832. Awgrymir mewn ffynonellau fod yn yr adeilad yma farchad ŷd wythnosol yn ogystal â llyfrgell. Mae'r 'Aberystwyth Official Guide and Souvenir' a gyhoeddwyd gan Gorfforaeth Aberystwyth yn 1924 yn nodi bod Marchnad Ŷd a Sinema ar y cornel rhwng Y Porth Bach a Stryd y Farchnad. Mae hysbyseb yn hyrwyddo'r simema fel 'Tŷ o Fri' - ac aed ati i newid, ailosod eisteddle ac aildrefnu pictiwrs cyntaf Aberystwyth (a sefydlwyd ym 1910) ym 1923. Roedd y sinema yn honni ei bod yn arbennig o gyfforddus a hardd, gydag awyriad perffaith, tafluniad di-fai, cerddoriaeth ardderchog a rhaglenni mawreddog. Mae'r adeilad presennol ar y safle yn sinema fodern.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment