Photoscot 2020: Craig Glais, Aberystwyth
Disgrifiadau
Yn ôl y 'Borough Guide' a gyhoeddwyd tua 1905 gan Gyngor Tref Aberystwyth a Chwmni Edward J Burrows, Craig Glais yw enw'r bryn sydd wrth ben gogleddol y prom ac mae'n codi 500 troedfedd uwchben lefel y môr. Mae'r bryn yn boblogaidd gyda'r rhai sydd 'yn hoffi digon o adloniant awyr agored'. Gellir cyrraedd y copa naill ai ar droed neu drwy ddefnyddio Rheilffordd y Graig gafodd ei agor ym 1896. Crëwyd Rheilffordd y Graig yn ogystal â meysydd adloniant ar Graig Glais ym 1895-96 gan Gwmni Gwelliant Aberystwyth. Mae'r rhaffordd yn dringo 130 metr ar raddiant o 1 mewn 2, yn fwy serth yn y rhan uchaf, o'r orsaf isaf, adeilad addurnedig brics coch. Roedd y ddau gerbyd, ill dau wedi eu cynllunio i gludo 30 person, yn cael eu pŵeru'n wreiddiol gan system cydbwyso dŵr. Ar y copa roedd 'tai haf, cysgodfannau, ystafelloedd lluniaeth, llwyfan band, gerddi yn cynnwys miloedd o blanhigion a blodau, llwybrau ymdroelli, llwybrau teras a lawntiau i'ch swyno'. Ychwanegwyd 'camera obscura' a rheilffordd igam-ogam erbyn 1905.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment