Photoscot 2020: Cyn safle Fferyllfa B.Taylor Lloyd, Y Stryd Fawr, Aberystwyth
Disgrifiadau
Mae hysbyseb tudalen-lawn i'r Fferyllfa yma yn yr 'Aberystwyth Official Guide and Souvenir' a gyhoeddwyd yn 1924 gan Gorfforaeth Aberystwyth. Awgryma'r hysbyseb fod i'r siop adran optegol a'i bod yn datblygu ffilmiau yn ogystal â darparu cyflenwad o ategolion ffotograffig a chamera. Dyma'r siop ar gyfer 'pob cyflenwad Kodak' a chrybwyllir camerâu Brownie yn arbennig. Roedd y Brownie yn gyfres o gamerâu syml a rhad gafodd eu cynllunio gan Frank A Brownell a'u cyflwyno ym 1900. Lens menisgws syml oedd i'r camerau yma, yn creu llun 2¼ modfedd sgwar ar ffilm rholyn. Y Brownie gyflwynodd ffotograffiaeth i'r cyhoedd yn gyffredinol ac roeddynt yn boblogaidd iawn. Yn ogystal, byddai fferyllyddion yn gwerthu'r cemegion oedd eu hangen i ddatblygu ac argraffu eich lluniau eich hun.
Roedd yr adran optegol yn cynnig gwella cur-pen drwy gynnig prawf llygad yn rhad ac am ddim, a dim ond yn argymell defnyddio sbectol pan oedd wir angen. Addewai'r fferyllydd cymwysedig gyflenwi cyffuriau pur o gryfder safonol wedi eu paratoi'n fedrus gyda gofal, ac yn gwarantu fod cynhwysion pob presgripsiwn yn ffres ac yn bur.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment