Photoscot 2020: Modurdy, Morfa Mawr, (Gwesty Marine)
Disgrifiadau
Yn ôl y map sydd yn gynwysedig yn yrr 'Aberystwyth Official Guide and Souvenir' a gyhoeddwyd yn 1924 gan Gorfforaeth Aberystwyth, modurdy sydd yn y lleoliad hwn. Mae Gwesty'r Marine yn hysbysu fod ganddynt hwy garej ar gyfer eu gwesteion.
Mae hysbysebion ar gyfer gwasanaethau modurdai yn y dref yn cynnwys Cwmni Modur Aberystwyth ar y Morfa Mawr a Modurdai Gorllewin Cymru ar Rodfa'r Gogledd - roedd hwn yn nodi eu bod ar agor ddydd a nos, bod ganddynt weithdy peirianyddol modern ar gyfer atgyweirio moduron o bob math a bod ganddynt stoc helaeth o ategolion. Roedd gan y cwmni yma hefyd gytiau dan-glo preifat a lle i 100 o geir. Yn ogystal, hysbysebodd y cwmni geir ar lôg a moduron math-newmatig 14-sedd yn teithio i bob man yn ddyddiol.
Nodir yn y teithlyfr fod gan y dref siarabangau modur wedi eu hen sefydlu, ar gyfer teithiau i fannau diddorol a phrydferth. Byddai moduron a siarabangau eraill yn ymgynnull ar y Prom yn y bore a'r prynhawn ar gyfer teithiau crynion i Bontarfynach gan ddychwelyd drwy Bonterwyd; i Weithfeydd Dŵr Birmingham yng Nghwm Elan; i Gorris a Llyn Tal-y-llyn, gan ddychwelyd ochr ddwyreiniol Cader Idris a Dolgellau; i Aberaeron a Cheinewydd ar hyd ffordd yr arfordir; i Lyfnant a Chwm Einion; ac i odre Pumlumon yn Eisteddfa Gurig.
Roedd dau gwmni arall yn cynnig y gwasanaethau yma hefyd - un oedd y Brodyr Jones, arloeswyr yn y busnes siarabangau modur, yn rhoi eu cyfeiriad fel 58 Ffordd y Môr neu'r garej yn Rhodfa'r Gogledd. Dylai darllenwyr y teithlyfr sylwi fod y Ceir Mawr yn gadael Rhodfa'r Môr yn ddyddiol am 9:30am a 2:15yp. Y cwmni arall oedd Cwmni Modur Primrose yn 62 Ffordd y Môr ac 11 Stryd y Ffynnon Haearn. Roeddynt yn hybu siarabangau newydd, modern, 14-sedd de-luxe yn gadael Rhodfa'r Môr yn ddyddiol am 10 y bore a 2:15yp.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment