Photoscot 2020: Cyrtiau Tennis a Lawnt Fowlio, Morfa Mawr, Aberystwyth
Disgrifiadau
Mae 'Tywyslyfr y Fwrdeistref', a gyhoeddwyd gan Gyngor Tref Aberystwyth a Chwmni Edward J Burrows, yn nodi fod 'cyrtiau tennis a lawntiau croce i'w cael wrth gefn Neuadd y Dref (Maes y Frenhines) ac yn agos i 'r orsaf rheilffordd (sef Plas Crug)'. Mae mwy o fanylion yn y 'Tywyslyfr Swyddogol a Chofrodd Aberystwyth' â gyhoeddwyd gan Gorfforaeth Aberystwyth ym 1924, - sef bod un-ar-ddeg o gyrtiau tennis caled, wedi eu gosod gan 'En Tout Cas Co', wedi eu hagor adeg y Pasg 1923. Roedd yno bafiliwn braf, gyda ystafell tê fawr a chyfleusterau merched a dynion â bath-gawododydd. Mae'r enw Ffrangeg 'En Tout Cas Co' yn golygu 'ym mhob cyflwr [tywydd]'. Sefydlwyd y cwmni ym 1909 ac mae'n parhau tan y dydd heddiw i ddarparu arwynebau chwaraeon pob-tywydd. Yn ogystal, mae'r tywyslyfr swyddogol yn nodi y gellir cael tocynnau dyddiol, wythnosol, pob pythefnos a misol o dŷ'r clwb. Erbyn 1924 mae'n debyg fod chwarae croce bellach yn cymryd lle yng Nghaeau Mabolgampau Coleg y Brifysgol Aberystwyth ar Ffordd Llanbadarn (rhaid oedd gwneud cais i'r gofalwyr), ac roedd y lawntiau bowlio nawr wedi symud i ddwy lawnt maint llawn ym Mhlas Crug lle roedd yn bosib cael tocynnau dyddiol, wythnosol, misol a thocyn-tymor. Roedd y Cwmni Lawntiau Bowlio Aberystwyth Cyf. yn hybu'r Rendezvous ar gyfer tê prynhawn yn y tywyslyfr. Roeddynt hefyd yn hysbysebu fod 'dwy wythnos fawr bowlio' i gael ar Gorffennaf 1-4 ac Awst 12-15. Credir bod y pafiliwn presennol ar y Morfa Mawr yn dyddio o tua 1935.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment