Photoscot 2020: Cofgolofn Rhyfel, Aberystwyth
Disgrifiadau
Mae'r 'Official Guide to Aberystwyth' a gyhoeddwyd gan Gorfforaeth Aberystwyth ym 1924 yn disgrifio'r gofgolofn fel teyrnged ogoneddus i'r 200 gafodd eu colli ar dir a môr yn ystod y Rhyfel Mawr. Uchder y gofgolofn yw 82 troedfedd (25m). Ffurfir y gofgolofn o bedestal amlochrog a thŵr sy'n meinhau gyda Angel Heddwch ar ei ben. Mae ffigwr benywaidd ar y pediment yn ymgnawdolu'r cysyniad o Ddynoliaeth yn ymgodi o ddryswch/deiliach rhyfel. Dadorchuddiwyd y gofgolofn ym 1923 ac mae'n adeilad rhestredig bellach.
Y dylunydd oedd Mario Rutelli, cerflunydd Eidalaidd o fri. Ar y glôb o dan y cerflun y mae enwau rhai o'r meirw lleol o'r Rhyfel Byd Cyntaf.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment