Photoscot 2020: Cyn safle'r Cambrian News, Ffordd y Môr
Disgrifiadau
Nodir yn llyfryn yr 'Aberystwyth Official Guide and Souvenier' a gyhoeddwyd yn 1924 gan Gorfforaeth Aberystwyth, fod y Cambrian News yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Iau ac mai ar Ffordd y Môr oedd pencadlys y cwmni. Cynlluniwyd yr adeilad gan Thomas Morgan yn 1895. Mae'r hysbyseb am y Cambrian News (Aberystwyth) Cyf. yn nodi mai hwy yw perchnogion y Cambrian News a'r cylchgronnau sy'n perthyn iddo, yn ogystal â bod yn argraffwyr, cyhoeddwyr a gwneuthurwyr llyfrau cyfrifon. Roeddynt hefyd yn rhwymwyr llyfrau masnachol a llyfrau gwaith celf. Nodwyd fod cylchrediad y Cambrian News yn ymestyn o Gaernarfon i Gaerfyrddin, gyda thri argraffiad ddydd Mercher a dydd Iau, ar gost o ddwy geiniog. Y Swyddfa Bost a W.H. Smith sydd yn yr adeilad bellach. Roedd siop W.H. Smith a'i Fab fewn yn adeilad yr Orsaf Rheilffordd pan gyhoeddwyd teithlyfr cyntaf y 'Fwrdeistref' gan Gwmni Edward J Burrows tua 1905.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment