Photoscot 2020: Llyfrgell Carnegie, Stryd y Gorfforaeth
Disgrifiadau
Mae'r map sy'n cyd-fynd gyda'r 'Borough Guide', a gyhoeddwyd gan Gyngor Tref Aberystwyth a Chwmni Edward J Burrows, yn dangos bod y llyfrgell ar ochr ddwyreiniol Stryd y Gorfforaeth, yn agosach i Ffordd y Môr. Mae'r 'Aberystwyth Official Guide and Souvenir' yn dangos yr adeilad sydd yn y llun yma - a gynlluniwyd gan Walter G Payton o Lundain ac a godwyd gyda chymorthdal o £3,000 oddi wrth Ymddiriedolaeth Carnegie. Gosodwyd y garreg sylfaen gan David Davies Llandinam ac fe'i hagorwyd yn Ebrill 1906 gan Mrs Vaughan Davies o Danybwlch. Yn Neuadd y Dre mae'r llyfrgell presennol, ond fe gofir gyda anwylder y tu-mewn hynod sydd i'r adeilad yma gyda'r teils gwydrog. Erbyn hyn mae'n Adeilad Rhestredig Gradd II.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment