Photoscot 2020: Safle cysgodfan ar y Promenâd gynt, Aberystwyth
Disgrifiadau
Cysgodfan sydd ar y safle yma, yn ôl y 'Borough Guide' a gyhoeddwyd tua 1905 gan Gyngor Tref Aberystwyth a Chwmni Edward J Burrows. Mae'r llyfryn yn rhoi disgrifiadau cadarnhaol o'r Promenâd fel cyrchfan iechyd - rhwng y mynyddoedd a'r môr, yr awyr yn iachusol, digonedd o heulwen, dŵr y môr yn eithriadol o bûr a diogelwch rhag gwyntoedd llym.
Un o'r meddygon oedd yn cymeradwyo Aberystwyth fel cyrchfan iechyd oedd Syr William Withey Gull. Roedd yn Lywodraethwr yn Ysbyty Guy, Athro Ffisioleg Fullerian a Llywydd y Gymdeithas Glinigol. Ym 1871 bu'n llwyddiannus yn gwella Tywysog Cymru o bwl peryglus iawn o'r twymyn teiffoid. Ymddangosodd erthygl yn y Times ar 18ed Rhagfyr 1871 yn adrodd fod Dr Gull wedi: "combined energy that never tired, watchfulness that never flagged ; nursing so tender, ministry so minute, that in his functions he seemed to combine the duties of physician, dresser, dispenser, valet, nurse, - now arguing with the sick man in his delirium so softly and pleasantly that the parched lips opened to take the scanty nourishment on which depended the reserves of strength for the deadly fight when all else failed, now lifting the wasted body from bed to bed, now washing the worn frame with vinegar, with ever ready eye and ear and finger to mark any change and phase, to watch face and heart and pulse, and passing at times twelve or fourteen hours at that bedside"
Ymateb Gull oedd: "He was as well treated and nursed as if he had been a patient in Guy's Hospital."
Cafodd y Barwn Gull ei apwyntio'n un o'r Meddygon-tŷ i'r Frenhines Victoria. Gwnaeth sawl cyfraniad arwyddocaol i wyddoniaeth feddygol, yn cynnwys hyrwyddo'r dealltwriaeth o myxoedema, haint Bright, paraplegia ac anorexia nervosa (ef wnaeth enwi y salwch yma).
Meddyg arall oedd Syr James Clark, oedd wedi cael ei argymell fel meddyg i'r dywysoges ifanc Victoria ym 1834. Cyhoeddodd draethodau ar ' Y Darfodedigaeth' a 'Triniaeth y Darfodedigaeth' ym 1835. Roedd erthygl yn y Lancet ar 9ed Gorffennaf 1870 yn nodi: 'He gradually became most unwittingly a power in the State. Always about the Court, high in the favour of the sovereign, and known to be greatly esteemed by the prince consort, he became the person to whom statesmen constantly referred for advice connected with medical matters and polity. He was always ready with advice, with suggestion, and wise, carefully-considered counsel. To him the medical section of the University of London owes its shape and much of its usefulness, and to him the College of Chemistry chiefly owes existence, and many other institutions much of their support.'
Mae'r tywyslyfr yn nodi fod y ddau feddyg wedi argymell awyr iach Aberystwyth. Yn ogystal mae'n nodi fod dyfeisgarwch dynol wedi darparu baddonau dŵr poeth arbennig ar gyfer cleifion, llwybrau braf i'r rhai oedd wedi eu gwahardd o weithgarwch corfforol nerthol a digonedd o feinciau. Roedd y gysgodfan dal yno ugain mlynedd yn ddiweddarach, yn ôl y 'Aberystwyth Official Guide and Souvenir' a gyhoeddwyd gan Fwrdreisdref Aberystwyth, ond ers hynny mae cwrs golf bychan wedi cymryd ei le. Mae cysgodfannau eraill yno o hyd ar ran gogleddol y Prom yn cynnig llefydd i eistedd a chysgod rhag y gwynt a'r haul.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment