Pier a Phafiliwn Aberystwyth
Pier a Phafiliwn Aberystwyth
Disgrifiadau
Pier a Phafiliwn Aberystwyth gan James Ede, heb ddyddiad.
Adeiladwyd Pier Aberystwyth, a oedd yn wreiddiol yn 244m o hyd, gan Eugenius Birch o Lundain yn 1865 ac mae'n cynnwys colofnau haearn bwrw wedi eu cysylltu gyda rhodenni haearn bwrw. Cafodd y pier ei ddifrodi gan storm yn 1866 ac fe'i ailadeiladwyd ym 1872. Cafodd isadeiledd ei ychwanegu gan G. Croydon Marks o Lundain yn 1896 ar argymhelliad Aberystwyth Improvement Company. Cafodd y pier ei dorri yn ôl i'w hyd presennol yn 1938 o ganlyniad i niwed gan storm.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment