Photoscot 2020: Yr Hen Ystafelloedd Ymgynnull, Maes Lowri, Aberystwyth
Disgrifiadau
Mae'r 'Aberystwyth Official Guide and Souvenir' a gyhoeddwyd gan Gorfforaeth Aberystwyth yn disgrifio yr Ystafelloedd Ymgynnull fel 'hen adeilad Sioraidd lle chwaraeodd Sir Henry Irving yn y ddrama 'The Bells' am y tro cyntaf.' Adeiladwyd yr Ystafelloedd Ymgynnull yn y dull Groegaidd ar dir a roddwyd gan W. E. Powell, Nanteos, i gynllun George Repton. Cost yr adeilad oedd £2000 ac ynddo roedd ystafell ymgynnull a rhodio, ystafell cardiau ac ystafell biliards. Fe'u hagorwyd ym 1820 ac fe'u bwriadwyd i fod yn lle i bobl ffasiynol gael cwrdd a chael adloniant. Ehangwyd yr adeilad ym 1839. Nodir ar goflech y tu allan i'r adeilad mai'r ystafelloedd yma oedd cartref cyntaf Llyfyrgell Genedlaethol Cymru o 1909-1916, ac mai yn 1923 yr ail-luniwyd yr ystafelloedd ar gyfer Undeb y Myfyrwyr ac, yn ddiweddarach, ar gyfer adran Gerddoriaeth y Brifysgol.
Drama tair act oedd 'The Bells', gan Leonard David Lewis. Roedd wedi ei lleoli yn Alsace, Ffrainc gyda Henry Irving yn chwarae rhan y bwrgfeistr, sy'n lladd a lladrata oddi ar Iddew Pwylaidd, masnachwr ariannog o'r enw Koveski, er mwyn talu dyled morgais. Ymhen amser mae Mathias, cymeriad Irving, yn gwallgofi gydag euogrwydd ac yn rhith-weld ysbryd Koveski. Yn y pen draw mae Mathias yn breuddwydio ei fod o flaen ei well am y llofruddiaeth ac, wrth gyffesu ei fod yn euog, yn cael ei ddefrydu i farwolaeth drwy ei grogi. Wrth ddeffro mae'n ceisio tynnu'r rhaff ddychmygol oddi ar ei wddf, ac yn marw o drawiad ar ei galon. Bu'r ddrama yn cael ei pherfformio am 151 noson yn Theatr y Lyceum ar y Strand, Henry Irving yn cael ei feirniadu fel seren drama Brydeinig. Chwaraeodd Irving y rhan yma droeon lawer yn ystod ei yrfa, gan gynnwys y noson cyn ei farwolaeth yn 1905.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment