Photoscot 2020: Gwesty'r Frenhines, Aberystwyth
Disgrifiadau
Mae hysbyseb am Westy'r Frenhines ar dudalen gyntaf 'Aberystwyth Official Guide and Souvenir' a gyhoeddwyd gan Gorfforaeth Aberystwyth ym 1924. Bryd hynny, Cwmni Cambrian Coast Hotels Cyf. oedd perchennog y gwesty a ch âi ei gymeradwyo gan yr AA (Automobile Association). Nodir yn arbennig fod lle i 160 yn yr Ystafell Dderw i ymgymryd â danteithfwyd i dê a chinio. Hybir argaeledd lifft drydan i roi mynediad i bob llawr yn ogystal â garej i 60 car. Enw'r rheolwr oedd W H Jervis. Gwesty'r Frenhines oedd, ar un adeg, y gwesty mwyaf a thrawiadol yn yr ardal. Fe'i agorwyd ar Fai 1af 1866, yn fuan ar ôl i'r rheilffordd gyrraedd y dref. Fe'i hadeiladwyd ar gyfer Cwmni Hafod Hotel gan George Lumley o Aberystwyth. Roedd yno o leiaf 83 ystafell gysgu. Aeth y Cwmni Hafod Hotel yn fethdalwyr ym mis Tachwedd 1866 a phrynwyd y gwesty gan y Cwmni Mid-Wales Hotel. Fe'i cymerwyd drosodd gan W H Palmer ym 1876/7. Cafodd ei ddefnyddio gan y Brifysgol i gynnal dosbarthiadau celf ac fel neuadd breswyl o 1892. Prynodd y Cwmni Cambrian Railway y gwesty ym 1914 a'i wella (ychwanegu gwres canolog) yn 1915. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe'i defnyddiwyd gan yr RAF a hefyd fel ysbyty mamolaeth. Ym 1951 fe'i newidiwyd yn swyddfeydd i Gyngor Sir Aberteifi ac yn orsaf heddlu. Yn ddiweddar fe'i ddefnyddiwyd fel swyddfa'r heddlu yn y gyfres trosedd boblogaidd ar y teledu - 'Y Gwyll'.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment