Photoscot 2020: Hen Dŷ'r Bad Achub, Aberystwyth
Disgrifiadau
Mae'r cynllun strydoedd sy'n cyd-fynd gyda'r 'Borough Guide', a gyhoeddwyd gan Gyngor Tref Aberystwyth a Chwmni Edward J Burrows, yn dangos gorsaf bad achub yn y safle yma. Prynwyd bad achub cyntaf Aberystwyth yn 1843 ac fe'i lleolwyd yn agos i'r harbwr dan reolaeth yr Harbwr Feistr. Cafwyd cyfarfod cyhoeddus yn Chwefror 1861 i gefnogi sefydlu gorsaf Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub. Cyrhaeddodd bad achub deg-rhwyf, hunan-unioni ym mis Hydref 1861. Hwn yw'r tŷ bad achub newydd a godwyd ym 1875 ar gost o £250. Codwyd gorsaf newydd ar Y Ro Fawr, ger yr harbwr, yn 1993 ar gyfer bad achub newydd, yr Atlantic 21 (http://www.aberystwythlifeboat.org.uk/history.html).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment