Gras y Garth
Disgrifiadau
Grace Parry-GRASI’R GARTH
Gadewch i ni gael sbec i ddechrau ar Grace Parry , neu Grasi’r Garth, fel yr adweinid hi ym Mangor.
Cyn adeiladu Pont-y-Borth, ‘roedd yr hawl i gludo teithwyr dros Afon Menai yn nwylo Esgob Bangor, a gosodai yntau’r ‘ferries’ ar rent i rywun arall rwyfo’r teithwyr yn ol a blaen o Fangor i Fon.
Gŵr o’r enw John Parry a ddaliai Fferi’r Garth yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif a merch iddo ef oedd Grasi a aned tua 1740 ym mwythyn y cychwyr yn y Garth. Prentisiwyd Grasi pan oedd hi’n ddim o beth i drin y cwch ac i ymgyfarwyddo a morwriaeth ar Afon Menai. Gwraig fechan, solat a chryf fel eliffantes oedd Grasi yn ol Richard Warner a’i gwelodd pan ymwelodd a Bangor yn 1798.
Rhyw greadur bach diniwed ac eiddil a adwaenid fel Jac Minffordd oedd gŵr Grasi, meddai hen forwyr Hirael, a hawdd coelio mai hi oedd y capten ar fywyd Jac. Dod i mewn i’r busnes teuluol wnaeth Jac. Aeth yn ffrae benben unwaith rhwng y ddau ar ganol y culfor a brawychwyd y teithwyr pan welsant Jac yn tynnu’i got ac yn neidio i’r dŵr a nofio’n ol i Garth rhag llid chynddaredd Grasi.
Dywed Warner y byddai Grasi yn chwythu crogen i rybuddio unrhyw deithiwr a allasai fod ar y llwybrau tua’r Garth fod ar fin cychwyn am Fon.
Gan Warner hefyd, y cawn y stori am y cwch yn torri’n rhydd ar noson ‘stormus yn ystod gaeaf 1797 ac i Grasi glywed ymhen rhai dyddiau wedyn i long arall ddod ar draws y cwch yn drifftio a’i thynnu i Lerpwl. Cerddodd Grasi bob cam i Lerpwl gyda dyn arall a rhwyfo’r cwch yn ol drwy dywydd enbyd i Fangor. Synnwn i flewyn nad oedd Jac drwy’r holl helynt mor snyg a physgan yn ei wely ac yn diolch na chafodd ef ei halio hefo Grasi i Lerpwl.
‘Roedd Grasi’r Garth yn casau’r Saeson, medd Warner, a chan ei fod eisiau croesi’n ddiogel i Fon fe dalodd ddwbl y pris a geisiai Grasi. Gwasgodd hithau ei law mewn diolchgarwch nes ofnai y datgymalai ei fysedd.
‘Does na ddim fferi Bellach dros y Garth, ond erys sgerbwd o biyr fel cofeb i ddyddiau prysur y ‘Ja-Ja’, y ‘La Margeurite’ a ‘Chwch Grasi’r Garth.’
Weekly News 19/01/1978
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment