Marged Fwyn Uch Ifan.
Disgrifiadau
Erthygl 1Marged Fwyn Uch IfanPwy oedd Marged?Yn nhafarn y Telyrni yn agos i Ddrws y Coed y ganed Marged, meddir, a hi oedd yr hynaf o hanner dwsin o blant ei rheini, oherwydd ceir cofnodion am eu bedyddio yn Eglwys Bedd Gelert; wele eu henwau;-Jane, 1700; John, 1706; Ann, 1709; David, 1710; Catrin 1712.Enw ei thad oedd Evan Powell, a cheir cofnodiad am ei gladdu ef yn Eglwys y Plwyf, Bedd Gelert, “5th March, 1739.”Yr oedd plwyf Bedd Gelert yn ymestyn draw i gyffiniau Drws y Coed gynt, medd Bob Owen; a dywaid ymhellach iddo weled enw Evan Powell, tad Marged, yn barti yn prisio eiddo Morgan Hughes o’r Wernlas, Bedd Gelert, yn 1698.Ond mae yn amlwg, oddi wrth y cofnod am fedyddio plentyn i Marged yn Eglwys Llanllyfni, iddi hi a’i gwr, Richard Morris, fod yn byw am gyfnod ar ol priodi ym mhlwyf Llanllyfni, cyn iddynt ddod i fyw i Benllyn, ger Brynrefail. Diau mai’r Gwaith copr a oedd yn Nant Peris a’u thynnodd i Brynrefail, a thybiaf hefyd mai un o ardal Bryn’refail oedd Richard Morris, er nad oes gennyf eto sail bendant dros gredu felly, ond tybiaf mai un o deulu Cae’r Gwydde ydoedd. YN ANWYBOD YN EI CHYLCHYchydig a phrin yw’r wybodaeth o hanes Marged eto. Ym ‘Methodistiaeth Arfon’ y Parch. W.Hobley, ac hefyd yn ‘Hen Atgofion’ yr athro W.J. Griffith, nodir blwyddyn marwolaeth Marged Uch Ifan yn 1801, a’i bod yn 105. Gwnaeth Mr William Williams, Bod y Gof, Llanberis; ac hefyd y Parch G.T Parry, Llanberis, lyfr bob un ar Hynafiaethau Llanberis a’r Cylch, gan roddi sylw mawr i Marged Uch Ifan, ond ni wyddai’r un o’r ddau pa bryd nac ymhle y claddwyd hi; ac os y gwyddent un o ba ardal oedd hi ni soniasant hynny. Yr oedd yr holl haneswyr megis yn ymfodloni ar yr hyn a ddywedwyd amdani gan Pennant, y teithiwr enwog, heb geisio edrych cofrestrau’r plwyfi cychynnol i gael y gwir amdani. Synnaf fod Syr John Rhys wedi gnweuthur y fath gamgymeriad pan oedd yn cyfieithu’r ‘Pennant Tours in Wales,’ trwy roddi’r flwyddyn (1786) rhwng cromfachau i nodi’r amser y buasai Pennant yn nhy Marged, a hithau wedi mynd oddi cartref y diwnrod hwnnw, eb ef.O ddarllen rhagymadrodd Mr. Trevor Parkins i’r ‘Tours’ gwelir fod Pennant wedi gwneuthur ei dair taith yng Nghymru, o’r flwyddyn 1773 i’r flwyddyn 1776; ac wedi cyhoeddi’r holl hanes erbyn 1781. Felly y mae nodiad Syr John Rhys yn anghywir, fel y gwelir.Yr oedd teithydd arall o’r enw William Hutton yn teithio tua’r Wyddfa yn y flwyddyn 1799; a dywid ef mewn can fod Marged Uch Ifan wedi ei chladdu, ac na wyddid lle y dodasid hi.Herald Gymraeg 12/02/1940 MARGED UCH IFANErthygl 2Samsones arall oedd yn cydoesi a Grasi’r Garth oedd Marged Ach Ifan, neu Marged ferch Ifan, Llanberis. Thomas Pennant oedd y teithiwr enwocaf i ysgrifennu hanes ei deithiau drwy Gymru ac ymwelodd ef a Llanberis yn 1796. Galowdd yn hy Marged ond ‘doedd hi ddim gartref er iddo obeithio cael gweld “the last specimen of the strength and the spirit of the ancient British fair.”Ganwyd Marged ach Ifan yn 1696 a bu farw yn gant a phump oed. Treuliodd y rhan fwyaf o’i hopes yn cario copr o’r mwynfeydd wrth droed yr Wyddfa mewn cwch i lawr i ben isa Llyn Padarn. (Tyned a fu Marged rywdro yn rhwyfo’r cwch a godwyd o’r Llyn yn ddiweddar?)‘Roedd ganddi ddwsin o gwn a daliai lawer mwy o lwynogod mewn blwyddyn na neb arall yn Llanberis. Gallai drin coed cystal ag unrhyw saer yn y wlad, gwneud pedolau a phedoli cffylau, gwneud esgidiau a ffidil a thelyn a chanu penillion. “Doedd na ddim dyn yn y Plwy” fentrai ymladd neu ymaflyd codwm a hi mewn Gwyl Fabsant.Rhoes ddwy gweir ofnadwy i un dyn, ac yn ol yr athro W.J.Gruffydd cawsant effaith rhyfedd iawn ar Richard Morris. Ar ol y gurfa gyntaf fe ymbriododd a Marged, ac aro l yr ail fe ymunodd a chrefydd a daeth yn un o arweinwyr Methodistiaeth y plwy.Diolch i Thomas Pennant am roi ar gof a chadw inni dipyn o hanes Marged ac i’r bard anhysbys hwnnw a ganodd ei chlodydd: Mae gan Marged fwyn Uch IfanDelyn Fawr a thelyn fechan;Un i ganu yn Nghaernarfon,A’i llall i gadw’r gwr yn fodlon. Mae gan Marged fwyn Uch IfanFegin fawr a megin fechan;Un i chwythu’r tan i gyneu,A’r llall i chwythu’r mwg i’r simneu. Mae gan Marged fwyn Uch IfanGrafangc fawr a chrafngc fechan;Un i dynu’r cwn o’r gongl,A’r llall i dori esgyrn pobol. Weekly News 19/01/1978 Erthygl 3Ar hen lwybrauGan Glan RhyddalltMARGED UCH IFAN “Yn y bala y mae hi’n bydio,A’i dwy fron fel eira’n lluchio,Dygwch fy ngorchymyn ati,Marged fwyn Uch Ifan ydi.”Dyma i chwi ddwy fron wen! Gwyliwch rhag newid yr un gair o’r pennill. Nid oes dim mor anfarwol a phennill ac anadl canrif yn ei fynwes. Os cedwir rywbeth hanes Marged Uch Ifan yn fyw y penillion telyn a ganwyd iddi a wna hynny.Ystyr ‘bala’ yn y pennill uchod yw tarddiad yr afon Rhythallt o lyn Padarn ger Bryn’refail, ac yno y trigai Marged. Beth amser yn ol euthum i ymweled a’r lle y bu’n byw. Nid oes dim o dy Marged yn aros, ond y mae ty a adeiladwyd yno yn ddiweddarach, o’r enw “Min y Don” uwch ben y drws. Mae’r tenant presennol sef Mr W. Jones, yn wr darllengar, ac yn hoff o farddoniaeth, wedi casglu llawer o lyfrau Cymraeg i’w diddori ei hun yn ei oriau hamdden. Daeth Mr. Jones gyda mi yn dra ewllysgar i ddangos pob man, ac i ddweud popeth a wyddai am y gawres Farged. Mae’r ty yng nghysgod craig fawr, ychydig lathenni o lan y llyn, ac yn wynebu y De-orllewin, ond mae’n debyg mai yn groes i hynny yr wynebai ty Marged gynt. Darllenais yn rhywle mai ty bach, a tho tyweirch a gwiail, oedd ty Marged. Dangosodd Mr. Jones le megis ogof mewn craig ger y ty lle y dywedir y cadwai Marged rai o’i chwn hela, a gelwir y lle yn “Cenel cwn Marged,” ond mae’n resyn fod y lle yn cael ei lenwi ag ysbwrial. Ychydig islaw’r bont y cadwai hi ei chychod, meddir, ac yr hafan honno, a chadwair dderw oedd hwnnw. Yng “Ngwyl Cadair Dinorwig” y bu hwnnw. Pa le y mae y gadair honno yn awr, tybed- A chan gofio, hefyd, yno darllenodd Alafon, am y tro cyntaf, ei benillion i “Marged fwyn Uch Ifan,” a’i chadair o’r tu ol iddo ar y llwyfan, yn nghysgod hen furiau Llys Dinorwig, yn yr awyr agored, felly y cynhelid yr Eisteddfod honno. Dyma rai obenillion Alafon i’r gwrthrych;-“Helyddes oedd Marged, a chwim oedd ei chwn;Llwynogod y llethrau adwaenant eu swn;Hi lamai’r gwyllt fannau cyn hoywed a’r hydd.A mawr fyddai’r helfa ar derfyn y dydd. Gwneud cwch fedrai Marged, a’i rwyfo’n ddirith,Hyd Badarn a Pheris, heb ofni tro chwith;Gnweud pedol a’i durio, a’i gosod dan farch,A hawlio gan hwnnw ufudd-dod a pharch. Gwneud telyn a’i chanu a fedrai’r fwyn wraig‘Doedd dim yn ei chalon yn debyg i graigO!marged Uch Ifan, hir yma ei thaw-Gobeithio fod telyn o hyd yn ei llaw!” EI HANESDyma’i hanes yn fyr. Fel popeth hen, nid ffaith i gyd mo hanes Marged, y mae peth traddodiad ynglyn ag ef, a hwnnw’n aml ydy’r mwyaf diddorol. Ganed hi oddeutu 100, a bu farw offeutu 1790. Dywed Pennant ei bod yn fyw yn 1786, ac oddeutu 90 oed. Buasai e far ymwleiad a’i thy, ond fel pob ledi arall, oni anfonir cerdyn hysbysiad, yr oedd hithau oddi cartref. Nid gwir bod ganddi farf fawr fel barf Catrin Cwmglas ( Cewch hanes honno ryw ddiwrnod.) Diau ei bod yn ddynes gref o gorff a meddwl, a chanddi ddwylo hynod gelfydd. Dywedir y gallai wneuthur cwch a’i rwyfo; gwneud telyn a’i chanu; pedoli march a’i farchogaeth; gwneuthur dillad ac esgidiau iddi ei hun; ac chanu crwth. Amser called i fyw ynddo pedd ei hoes hi, a phawb braidd ynceisio by war gynnyrch y tir, ac yr oedd ganddi hithau ddefaid a gwartheg yn pori’r llechweddau, ac enillai ychydig wrth gludo copr o waith mwn yr Wyddfa, gyda chwch neu ddau, ar hyd llyn Padarn i Gwmyglo. Yr oedd ganddi forwyn gref, ac o gyffelb anian iddi ei hunan, i’w chynorthwyo; ond bu farw honno flynyddoedd o flaen Marged. Dyn bychan oedd ei gwr, ac yn edrych yn llai na’r cyffredin, hwyrach, oherwydd ei bod hi mor dal a chorfforol. Nid oes dim hanes iddo e fond ei fod yn fechan. Er hynny, tebygwn i ei fod ef yn fawr ei anfodlon- rwydd, neu y mae’r pennill canlynol yn gelwydd:- “Mae gan Marged fwyn Uch IfanDelyn fawr, a thelyn fechan,Un i ganu yng Nghaernarfon,A’r llall i gadw’i gwr yn fodlon.” HELA A PHYSGOTAHwyrach mai ym myd helwriaeth y cyflawnodd Marged ei gorchestion mwyaf, oherwydd yr oedd hi yn ferch o ysbryd anturiaethus, ac yr oedd ys dywed Pennant, yn esiampl dda o hil cewri yr hen Frythoniaid. Yr oedd ganddi ddwsin o gwn; milgwn, daergwn, ac adargwn, o waed rhyw penigamp, a gallai saethu a physgota. Felly gwelir nad gwag ei chwpwrdd. Yn ei hymdeithiau helwriaethol ar y bryniau uchel y deuai yn aml ar lwybrau’r llwynogod, a daliai ei chwn fwy o lwynogod mewn un flwyddyn nad a daliai yr helwyr eraill mewn deng mlynedd; ac am bob llwynog a ddaliai rhoddair far car swmer pren simdde, Cyfrifodd Griffith Ellis, y goruchwyliwr, yn agos i ddau gant o’r marciau ar yr hen bren hwnnw, aro l marw Marged. Er hyn i gyd, dywed haneswyr mai dynes garedig a mwyn oedd hi, ac mae’r gair “mwyn” ynghanol ei henw yn awgrym o hynny. Dylaswn ddweud yn y dechrau mai merch Ifan a olygir wrth “Uch” neu “Arch Ifan.” Gwneir cam a hi yn y pennill telyn sydd fel hyn;- “Mae gan Marged Fwyn Uch IfanGlocsen fawr, a chlocsen fechan,Un i gicio’r cwn i’r gornel,A’r llall i gicio’r gwr i gythrel” BRENHINES Y LLYNMae’n debyg fod Marged o’i mebyd yn hoffi rhwyfo’i chwch ar lyn Padarn. Galwad y llyn a’i denodd yn ieuanc, a hi a fu ufudd iddo. Byddai’n cludo dieithriaid ac ymwelwyr ar hyd y llyn, ac yn derbyn llog da weithiau. Edyrdd William Williams, Llanberis, yn ei lyfr, hanesyn o eiddo Griffith Ellis, amdani yn cludo yswain y Faenol yn un o’i chychod. Oan oedd oeddeutu canol y llyn gafaelodd y noneddwr ynddi, er cael tipyn o ddigrifwch diniwed ond bwriodd Marged ef dros y cwch i waelod y llyn, er ei ddychryn mawr. Pan ddaeth i’r wyneb crefai’n daer am gael ei godi i’r cwch yn ol, ond yr ateb a gafodd oedd “ na chei he bi ti roddi hanner gin ii mi.” Wrth gwrs, hi a’i cafodd, a chawsai hanner ei stad pe mynasai’r fath dal. CALONNAU’R BEIRDDEr na fentrai gwyr ieuanc a chryf afael codwm a Marged, eto mentrodd holl feirdd y Dyffryn ganu ei chlod, a datgan eu serch tuag ati, ac nid oes ond un rheswm i’w gynnig dros iddo ddewis y mwyaf diolwg ohonynt yn briod, sef ei fod yn medru canu’r Delyn, tr ana fedrai’r un o’r lleill. Trystiodd y bychan yn y Delyn ber, a swynodd y gawres i’w briodi. Ni thybiaf fod calon bard yn wahanol i gallon rhywun arall, ond bod ganddo fwy o ddawn i ddenu hwyrach. Ond beth am ddawn y telynor?“Yno’r hen delynor oedd,Bwrw hud a’r bawb yr ydoedd.”Ni wyddys pwy oedd y beirdd a ganodd iddo’r penillion. Yr oedd Dafydd Ddu Eryri hen ei eni pan oedd Marged yn caru, onide buasai ef yn sicr o wneuthur pennill iddi. Dodaf yma bennill a waned yn ddiweddar iddo, fel pe byddai’r awdur yn cydoesi a hi;- Ger y graig ym min llyn Padarn,Yno mae y gawres gadarn,I holl ferched Cymru’n batrwm,Gwyliwch a hi ‘mafael codwm. Yr Herald Gymraeg 14/07/1931
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment