Y SIACED WEN, gan Eos Bradwen (John Jones) Cân am y chwarelwyr llechi, o gasgliad Awelon y Bryniau 1891.
Disgrifiadau
Erthygl 1
Fersiwn 1; Y SIACED WEN
Yng ngwlad y bryniau pwy sydd ben,
Fel y gwr sydd yn gwisgo’r Siaced Wen,
Taranu mae’r clogwyni certh,
A bryn a Dyffryn deimlai nerth;
Ei ebill miniog weithia’i ffordd,
A’r byd sydd yn teimlo pwys ei ordd,
Pa wr gwladgarol faidd ro’i sen
I’r gwr sydd yn gwisgo’r Siaced Wen.
Yn fore, fore, gyda’r wawr,
Fe’i gwelir e far ei glogwyn mawr;
A swn, a swn ei arfau sydd
Rhwng creigiau’n clecian oriau’r dydd,
Fe ddaw pob ardal is y nef
I ganmol ei ddiwydrwydd ef;
Nid oes mwy diwyd is y nen
Na’r gwr sydd yn gwisgo’r Siaced Wen.
Pan fyddo cnwd o eira gwyn
Yn hulio i fwth ar ael y bryn,
Bydd ef, er oered hinon laith,
Ac er peryglon wrth ei waith.
‘Rol llafur diwyd fore a nawn,
Ei gyflog bach sy’n deilwng iawn;
Fe ddaw’r nos Sadwrn ola i ben-
Fe dreulia’i oes fel y Siaced Wen.
Dros bob iawnderau deil y dyn,
Fel y Beibl mawr yn ei fwthyn gwyn;
Ac fel y griag o dan ei droed,
Bu’n gadarn dros ei hawl erioed.
Mae’n caru ei wlad, mae’n Gymro pur,
Wrth drin y graig efo’i ebill dur;
Ac mewn dyngarwch pwy sydd ben
Fel y gwr sydd yn gwisgo’r Siaced Wen?
EOS BRADWEN
EOS BRADWEN
CERDDOR LLENOR A BARDD
gan Mr Edwrad Morgan
Trwy gyfrwng y W.B yn rhifyn Awst 21, 1947, o dan y pennawd "Anthropos ac Eos Bradwen" apeliais am ychydig o hanes yr olaf. Fel yr hen ddywediad "popeth a ddaw i'r rhai a ddisgwyla" wedi hir amser llwyddais gael ychydig hanes y cerddor a'r bardd a fu yn swyno'r werin flynyddoedd lawer yn ol. Tybiaf fod fy hen gyfaill, y cerddor enwog, Mr.J.T.Rees, Penygarn, sydd yn cadw y meddwl trwy ganu, yn dlws ac iraidd, wedi bod yn dathlu ei ddegfed mlwydd a phedwar ugain trwy ymchwilio i hanes Eos Bradwen. Bu yn ffodus i gael y Cymro adnabyddus a thwymgalon, Llew Owain, Caernarofn, i roddi i ni y manylion ynghylch Eos. Credaf na freuddwydiodd Eos Bradwen, ers tua chan mlynedd yn ol, y byddai dau Gardi sydd yn byw yn Ne America yn ymchwilio i'w hanes. Un ohonynt, sef yr Ambassador Prydeinig, T.Ifor Rees, C.M.G. B.A etc. sydd yn nyw ar yr ucheldiroedd yr La PAS, Bolivia, a'r llall, sef yr ysgrfennydd sydd ynh byw yn Carabobo lle bu y Prydeinwyr yn cymryd rhan flaenllaw gyda'r anfarwol Simon Bolivar yn y frwydr fawr olaf yr hon a fu foddion i ryddhau trigolion Venezuela o rwymau caethiwed yr Ysbaenwyr ers mwy na chanrif yn ol. Er na chafodd Eos Bradwen y fraint yn ei ddydd i deithio uwchlaw'r cymylau, eto y mae ei hanes wedi hedfan trwy'r entrych o Gymru hyd yr Andes, ac oddiyno dros mynyddoedd uchel byd wastadedd Venezuela ac yn ol drachefn i Aberystwyth, lle y treuliodd yr Eos flynyddoedd hapus.
Eos Bradwen, neu John Jones, oedd frodor o Feirionydd. Ganwyd ef ym Maes-y-Bwlch, Corris, Hydref 16, 1831. Yn lled fuan ar ol ei eni, symudodd ei rieni, William ac Eisbaeth Jones, i fyw i bentref bychan o'r enw Tregorwyr. Chwarelwr oedd ei dad yn gweithio yn chwarel Aberllyfeni.
Yr oedd Eos Bradwen yn wr awengar iawn ac anodd dweud pa un ai fel bardd ynteu fel cerddor y rhagorai.. fel y dengys ei weithiau. Gwr rhadlon, hynaws a boneddigaidd oedd yn hoff o natur, yn ymhyfrydu mewn blodau a threodio llwybrau diarffordd ei wlad enedigol a garai gydag angerddoldeb mawr. Yr oedd yn gymydog diddan a charedig, ac yn gwmniwr di-drangwydd yn pereiddio ei natur, a'i gymwynasau yn ddiri.
CYFNOD PRYSUR
Yn 1956 symudodd i fyw i Ddolgellau, lle y bu'n byw fel athro cerddorol. Yn 1858 symudodd i fyw i Aberystwyth, a thra yno cyfansoddodd lawer o farddoniaeth a cherddoriaeth. Tra yn y dref ymbriododd a boneddiges o'r enw Elizabeth Jones, yn eglwys Llanbadarn Fawr. Digwyddodd hyn yn Awst, 1859. Tra yn Aberystwyth cylawnodd waith mawr gyda cherddoriaeth drwu ganu ac arwain corau. Yr oedd cyn uched ei fri hefyd gyda barddoniaeth a llenyddiaeth, ac yn ystod y cyfnod hwn enillodd lawer mewn eisteddfodau pwysig ar bryddestau etc. a chael beirniadaethau gwych. Yn 1863 symudodd i Lanelwy i lanw'r swydd o arweinydd corawl yn yr Eglwys Gadeiriol, a bu yno am dros bymtheng mlynedd. Bu'r pymtheg mlynedd hyn yn gyfnod prysur a chynhyrchiol yn ei hanes; bu'n canu yn arwain a beirniadu, a chyfansoddi lawer o farddoniaeth a cherddoriaeth. Symudodd i Lanelwy i fyw i Rhyl, a thra yno yn 1876 cafodd un o brofedigaethau mawr ei fywyd, sef colli ei fachgen addawol, Willie, yn 18 oed. Ymddengys fod pleserdaith wedi myned o'r Rhyl i Lanberis ar Orffennaf 1878, a bod Willie wedi colli ei fywyd. Deuwyd o hyd i llinellau a ganlyn, ymhlith papurau Eos ar ol iddo farw:
Little Willie, planted this
Water it, he's gone to bliss,
Let it flourish for his sake,
Not a flower from it take,
He was good and he was wise,
He's a flower in Paradise.
Cyfansoddodd ef wrth syllu ar lecyn a elwid yn "Gardd Willie." Yr oedd Willie yn gerddor gobeithiol. Yn fuan ar ol hyn aeth i fyw i Gaernarfon ac yn y bu farw. Ymhlith ei fuddigoliaethau eisteddfodol ceir rhai a ganlyn: Pryddest "Dinisr Dinasoedd y Gwastadedd." Eisteddfod Corris, Medi 1856, pan yn 25 oed; pryddest, "Abrahan yn aberthu ei fab Isaac" Eisteddfod Aberystwyth, 1861; pryddest "Dinistr Byddin Senacherib." buddugol eto y flwyddyn ddilynol, geiriau cantawd, "Y Mab Afradlon" buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol 1864 (cyfansoddodd Gwilym Gwent gerddoriaeth ar y geiriau hyn, a chyhoeddwyd y Gantawd yn 1867. Yn Eisteddfod Llandudno yn 1885 enillodd ar opera "Dafydd ap Siencyn" Yn Eisteddfod Corwen yn 1886 enillodd gadair am bryddest ar "Y Mynydd" Yn Eisteddfod Glanyrafon 1891, enillodd gadair ar "Yr Wyddfa" Ef oedd awdur y geiriau a'r gerddoriaeth yn y gantawd. "Owen Glyndwr" a berfformiwyd yn Eisteddfod y Rhyl, 1865 ac ym Mhafiliwn Caernarofn yn ddiweddarach. Yn 1892 cyhoeddodd lyfr o farddoniaeth o dan y teitl "Awelon y Bryniau."
Ei prif weithiau
Ei brif ganeuon oedd:- Chwifio'r Cadach Gwyn, Oes y Byd i'r iaith Gymraeg. Fe ddaw Llywelyn eto'n o'. Mae'r afon eto'n llifo (geiriau a cherddoriaeth). Hiraeth am Gymru, Bugeilies yr Wyddfa, Bugail y Berwyn, Dros y Môr, (geiriau a cherddoriaeth) Eryri, 'Rwyf yn cofio, 'rwyf yn cofio, Pwy sydd eisiau Paur Newydd (can ddigrifol). Bendith i'r Milwr (can i denor gyda chyfeiliant i leisiau meibion). Wele ei ganigau cyhoeddiedig:- Yr Hen Dalcen Mawr, Yr uchel-wyl, Breuddwyd y Milwr, Beddrod mam, Cenad y Don, Llais y gwyliwr (can i blant ysgol), Cilia'r nos, Cymra fy ngwlad, Breuddwyd y milwr, Cyffryn Clwyd, Mewn Bad ar y llanw, Cytgan y Tylwyth Teg, Molawd Gwyllt Walia, Can y gweithwr, Y Gorlifiant, Ymdaith Rakptzt, Gwerddonau'r Lili, Anthem Bethlehem, Cymru'n awr a gwyd ei phen. Cwsg fy anwylyd, Priodas Merch y Bugail, nifer mawr o garolau hefyd.
Gobeithio y bydd i ddarllenwyr y W.G gael cymaint o bleser i ddarllen y nodion am y ddau Gymro llengar ag a gafodd yr ysgrifennydd i'w casglu; felly "Yn angof ni chant fod."
Erthygl 2/Fersiwn 2
21/11/1893
Y Genedl Gymreig
GWR A'R SIACED WEN
Dan y teitl uchod darlunir gwaith a chymeriad y chwarelwr yn dra hapus mewn geiriau prydferth a cherddoriaeth hwyliog gan Eos Bradwen. Addurnir y wyneb-ddalen gan ddarlun prydferth o Faner Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru, yn cynwys golygfeydd ar chwareli Bethesda, Llanberis, Nantlle, a Ffestiniog, ynghyd a darluniad o ryw haner dwsin o'r gwahanol ddulliau y bydd y chwarelwr yn gweithio.
Mae geiriau'r gan fel a ganlyn:
Yn Ngwlad y Bryniau pay sydd ben,
Fel y gwr sydd yn gwisgo'r Siaced Wen;
Daw myrdd i senio'r glodydd glan,
Clogwyni ganant newydd gan,
Ac fel i’r gad yn y dyddiau gynt,
Bydd corn y gwaith yn y pedwar gwynt,
Bydd corn y gwaith yn y pedwar gwynt,
Bydd corn yr awry n galw, galw, Corn yr awr.
Drwy stormydd gerwin Gauaf du,
Darbodus ydyw’r Cymro cu,
Pa ffodus wr faidd roi sen
I’r gwr syd yn gwisgo’r Siaced Wen.
Yn foreu, foreu, gyda’r wawr,
Fe’i gwelir ef ar ei glogwyn mawr,
Yn swn trosolion gweithia’i ffordd,
Teyrnasoedd deimlant bwys ei ordd.
Mae’n caru ei wlad, mae’n Gymro pur,
Wrth drin y graig hefo’i ebill dur,
Wrth drin y graig hefo’i ebill dur;
Tra corn yr awry n galw, galw,-Corn yr awr.
Cartrefol ryddid hoff a chwardd
Yn ei fwthyn clyd fel palas hardd.
Mewn pob dyngarwch, pwy sydd ben,
Fel y gwr sydd yn gwisgo’r Siaced Wen.
Dros bob iawnderau deil yn dn,
Fel y Beibl mawr sy’n ei fwthyn gwyn,
Ac fel y graig o dan ei droed,
Bu’n gadarn dros ei hawl erioed.
Dros foroedd pell o’i fryniawg fro,
Bydd creigiau Cymru byth mewn co’,
Bydd creigiau Cymru byth mewn co’,
Bydd corn yr awry n galw, galw,-Corn yr awr.
‘Rol llafur diwyd-cyflog llawn,
Siriola’i dylwyth dedwydd iawn.
Nes daw ei Sadwrn ola’i ben,
Fe dreulia’i oes fel y Siaced Wen.
I lais Tenor y bwriedir y gan, a gwna yn gampus fel darn poblogaidd mewn cyngherdd neu gyfarfod lenyddol. Cyhoedd hi yn y ddau nodiant gan Gwmni’r Wasg Genedlaethol Gymreig /9Cyf.), Caernarfon. Y Gwr a’r Siaced Wen, neu Y Chwarelwr Can i Denor. Y Geiriau a’r gerddoriaeth gan Eos Bradwen. Y ddau nodiant ar un copi Chwecheiniog. Swyddfa’r Genedl, Caernarfon.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment