Skip to main content

Sadwrn Setlo, Cân gan E.Jones, Llanfairfechan am y dydd Sadwrn byddai'r chwarelwyr yn cael eu talu.

Disgrifiadau

SADWRN SETLO Treuliais felus ddifyr origLawer tro i ganu orig,Ac yn awr yr wyf am geisioCanu cân i Sadwrn Setlo. Diwrnod hynod iawn yn ddiauYdyw hwn ym Mhlith y dyddiauDiwrnod yw nad aiff yn angho’-Diwrnod mawr yw Sadwrn Setlo. Gweithia’r gweithwyr yn egniol,Gydag ysbryd penderfynol,Ac edrycha’n mlaen pan fyddo’nDerbyn tal ar ddiwrnod Setlo. Ar ol llafur mawr a lludded,Difyr odiaeth ydyw gweled,Llu o weithwyr yn cydrodioAm eu cyflog Sadwrn setlo. Gwelir llu yn llon a llawen,Ac yn siriol fel yr heulwen;Mynwes llawer fydd yn chwyddoO lawenydd Sadwrn Setlo. Bydd y wraig a’r plant yn drefnus,A’r holl dy yn lan a destlus,Er mwyn rhoddi perffaith groesoI’r penteulu Sadwrn Setlo. Daw y gwr yn llawen adref,A bydd pawb mewn hwyl a thangnef;Fe geir gweled nad a’n angho’O ddanteithion Sadwrn Setlo. Prysur fydd yr holl fasnachwyrA phob lliw a llun o’r shopwyr;Fe fydd pawb yn cyd-ymunoI groesawu’r Sadwrn Setlo. Llestri rhad a phob rhyw gelfiFydd yn cael eu dwyn a’i gwerthu,A daw’r Iddew, megys cadno,Gyda’i nwyddau Sadwrn Setlo. Llanciau’r fro yn llu-luuosogA’r holl ferched ieuainc serchogFyddant brysur yn ymbincioI fwynhau nos Sadwrn Setlo. Ond rhyw ddiwrnod du, er hynny,Ydyw hwn mewn llawer teulu;Medd’dod hagr sy’n dinystrioMwyniant llawer Sadwrn Setlo. Ac mae eraill fu yn ddiog,Yn ddigalon ac afrywiog;Ca’s y rhai nid y’nt am weithioNi chant gyflog Sadwrn Setlo.Eraill sydd yn mhlith y gweithwyrAnt i’r dafarn yn ddisynwyr,I ofera ac i warioEu henillion Sadwrn Setlo. Trist yn ddiau ydyw gweledDynion, wedi gweithio’n galed,Yn diota ac yn sgwaroEu cyflogau Sadwrn Setlo. O! na wawriai’r diwrnod hwnwPan ddarfyddo yfed cwrw;Felly gwelid llu,’n lle cwyno,Mewn hapusrwydd Sadwrn Setlo. Wrth i mi yn awr derfynu,Dyma’r wers rwyf yn ei dysgu-Sef fod i ni iawn-ddefnyddio‘Rhyn a gawn ar Sadwrn Setlo. E. Jones, Llanfairfechan. North Wales Weekly News19/05/1905 

Owner:
LleCHI LleNI
Crëwr:
E.Jones Llanfairfechan. North Wales Weekly News 19/05/1905
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2025
Eitem wedi’i llwytho:
18/1/2025
Date originally created:
20/1/2025
Gwelediadau:
209
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment