Caban Mawr, Ponc Pen Gamet, Chwarel Dinorwig. Mr John Evan Jones, Waunfawr yn ymddeol.
Disgrifiadau
Cynhaliwyd cyfarfod diddorol yn y Caban Mawr, Ponc Pen Gamet, Chwrael Dinorwig, Medi 16, i gyflwyno anrheg o sbectol aur a glalwen i Mr. John Evan Jones, Ty’n Twll, y Waunfawr, ar ei ymneilltuad o’r gwaith.
Wele rai o’r penillion a gyfansoddwyd ar gyfair yr amgylchiad:-
“John Evans, a ydych am symud
A’n gadael ni yma ar ol?”
Eich difyr ysgwrs a’ch cyfeillach
Os ydych-cewch hyn en eich col,-
Cewch deimlad tyneraf y fynwes
A chynnes ochenaid o’ch tu
A myrdd o fendithon i'ch dilyn
Oddiyma dros ochr Cefn Du.
Rhyw orchwyl lled anodd yw canu
Wrth adael cyfeillion dinam
Gair eang ei gynnwys yw “Madael”
Gwaith ofer yw gofyn paham;
Mae yna linynnau yn datod,
Adegau ysamala a ddaw
Yn llwythog o dyner atgofion
Am ferfa, a gwagen, a rhaw.
Rhaid cefnu ar chwarel Dinorwig
A chwmni cyfeillion diri',
Rhaid croesi y teimlad ar ‘wyllys,
Dibrisio bob hiraeth a chri;
Rhoi ffarwel i'r hoffus gantorion,
Eich ffyddlon gyfeillion drwy’ch oes-
Y Barics, Bob Parry, Bob Gadlys,-
Mae popeth wrth ‘madael yn groes.
Dinorwig, J H DAVIES
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment