Barics y Meinars - Rhosydd
Disgrifiadau
AM "FARICS, Y MEINARS," Y RHOSYDD.
Yr oedd "Baric y Meinars " yn sefyll with ymyl y fynedfa i’r " Lefel Fawr,” yr hon sydd oddeutu hanner milltir o hyd. Nid wyf yn gwybod yr amser a gymerwyd i'w hagor. Yr oedd "Barics y Meinars"" yn un o'r baricsod cyntaf a godwyd yn y rhan yma o’r chwarel, lle y mae yr holl weithio yn awr. Gelwir ef yn “Farics y Meinars” gan mai yma y lletyai y meinars oedd yn gyrru “Y Lefel Fawr." Bu yn aros ynddo, o dro i dro, rai cewri mewn llen a chan. Yr oedd fel Athrofa y Bala, llawer o ddarllen a chwilio, canu a phrydyddu. Mae gennyf gof bychan am John Roberts," Sion Robert y Carneddi," hen wr hardd o bryd, gweddol dal o gorff, tawel a mwyn ei ysbryd, ac yn gweithio yn "y Lefel Fawr. Tybiaf ei fod yno wrth pan gyfarfyddodd Thomas Williams, “Tomos William” Ty’n y Mynydd, Pren Teg, a’i ddiwedd trwy i dwll danio arno yn y flwyddyn 1868.-(Oedd.-Carn.) Nid oedd Tomos William ond dyn gweddol ieuanc, dim ond 53 mlwydd oed. Fe fu ebill mewn twll yn y graig i nodi y fan y cyfarfyddodd a'i ddiwedd yn y lefel, ond mae llawer gyfnewidiad wedi ei wenud arni, fel mae lle yr ebill wedi ei dynnu ymaith. Gwr crefyddol ei ysbryd oedd Tomos William, ac yn llym iawn yn erbyn pechodau ac arferion llygredig. Yr oedd ef yn dad i'r addfwyn "Owen Williams, yr Erw” (fel y’i gelwid). Tra yn gweithio yn un o chwarelau Ffestiniog, cafodd ei anafu yn drw, yn enwedig ei wyneb, trwy i dwll danio arno. Yr oedd yn wr a gair da ac uchel iawn iddo gan bawb o’i gydnabod. Mae y gofgolofn hardd sydd a rei fedd ym mynwent Ramoth, Llanfrothen, a roddwyd gan ei gyd-weithwyr, yn tystio ei pharchedigaeth iddo.-(Mae’r Parch Robert Williams, Bryn ‘Refail, gynt o Fanceinion, yn fab iddo.- Carn.)
William a Gruffydd Davies, Bedd Gelert, dau frawd, a fu yn yr “Hen Farics Meinars.” Gwr lled dal oedd Williams Davies, tawel ei ysbryd, yn ddarllenwr dyfal, ac yn meddu ar wybodaeth eang. Efe oedd y “Doctor” yn y cyfeiriad hwn yn ein plith. Yr oedd y Ysgrythurwr gwych, ac yn dipyn o lenor a bardd, a gwr crefyddol iawn. Mae iddo fab, sef John Davies, o’r Bedd, yn gweithio eto yn y Rhosydd. Chwarelwr cyflym ydyw ef. Y mae yn ymdebygu i’w dad o dyfiant ac o dafod.
Nid oedd Gruffydd Davies cyn daled a’i frawd William, ond yn fwy grymus. Gwr siriol a llon oedd ef bob amser, ehb fod lawn mor dawedog a’i frawd. Ur oedd ei ben wedi ei brydferthu a gwallt modrwyog, yr hwn oedd yn gyrliog hard di gyd. Nid oedd ef mor alluog a’i frawd, er ei fod yn wr dueddiadau crefyddol, ond yn “grefyddwr distaw.” Mae iddo fab, sef Griffith Prichard Davies, yn byw yn awry n Nant Gwynant.
Howel (neu Hywel) Griffith Powell, Bedd Gelert, oedd un o letywyr y Barics hwn. Gelwid ef yn “Hywel Bach Bedd Gelert.” Yr oedd yn gloff o’i glun. Gwr ffraeth ei ddawn, darllenwr mawr, a deallus odiaeth ymhob ystyr. Yr oedd yn feinar cyflym.
Aeth o’r chwarel yn bur fuan i gadw siop ym Medd Gelert, a bu’n llwyddiannus iawn yn ei fasnach. “Harrod’s” Yr oedd ef (fel ei gefnder, y Defisiaid, a enwyd) yn hanu o hen gyff enwog iawn, yn fab i Evan Powell, yr hwn oedd yn fab i Hywel Gruffydd, y bard, un o feibion Y Carneddai. Gwelwch fod “Yr Hen Hywel” yn daid iddo. Meddai ar dri brawd, fuont feirw yn yr Amerig, a Laura yn y wlad hon. Y mae mab i Hywel G Powell mewn safle da yn Milwaukee, sef Evan Morris Powell (Ifan ap Hywel). Y mae’n flaenor yng nghapel Cymraeg y ddinas ers blynyddoedd, ac yn wr blaenllaw iawn. Mae’n fardd da, ac yn gymri gwlatgar a llengar iawn. Hefyd mae dwy ferch iddo yn byw ym Medd Gelert, a’i briod hoff Mrs Powell, yn edrych yn hardd a gwisgi yn ei hen ddyddiau. Triganna yn ei thy-helaeth a phrydferth Glan-Afon, gerllaw’ “Pont y Pentref.”
Morris W. Griffith, “Moi Bach y Carneddi” oedd yma hefyd. Yr oedd ef yn ddatganwr mwyn a swynol iawn. Meddai ar lais dymunol. Yr oedd yn llawer o flaen ei frawd Richard ( sef Carn.) yn hyn o waith.-(Dechreuais innau fod yn ganwr mawr gyda’r tannau ystalwm,-Carn.) Ni fu “Moi Bach” yn hir iawn yn y Rhosydd. Bu farw yn ddyn lled ieuanc. Blodyn prydferth yn gwasgar ei sirioldeb, a’i garedigrwydd er llesoli y ddynoliaeth oedd efo. Yr oedd ei briod yn ddynes hardd, ac yn ferch Oerddwr, sef Catherine. Nis gwn a yw yn fyw. (Ydyw, yn Ninas y Llyn Halen,”Salt Lake City.” Nid yw yn perthyn i’r Mormoniaid, ond triganna gyda’i mab-ynghyfraith.-Carn.).
Daniel Jones, Pren Teg, fu yma. Gwr tal, a syth ei gerddediad. Canwr mwyn ydoedd yntau, tlws ei gan, a siriol ei wen.
Edwrad Lloyd (Tegfelyn), Pren Teg. Bu yntau yn lletya am flynyddoedd yn “yr Hen Farics.” Gwr o duwed tawel a gweithiwr dyfal. Gwelais ef lawer Gwaith yn ymneilltuo gyda’i lyfr o dan rhyw faen, neu gysgod bryncyn, ar hwyrnosau haf, wedi llafur called y dydd. Yr oedd wedi rhoddi ei fryd ar ddyrchafu a diwyllio ei hun, a hynny a wnaeth er bob anhawster. Daeth yn adnabyddus iawn fel bard aro l iddo ennill a rei fugeilgerdd “Bugail y Gorllwyn,” yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarofn, 1877. Cafodd ei gan ganmoliaeth mawr gan Ceiriog, un o’r beirniaid. Gurodd Glaslyn gan fod ganddo yntau fugeilgerdd dd ai mewn yn y gystadleuaeth bwysig honno, a chlywais y byddai Glaslyn yn chwyrnu yn enbyd am i Edward Lloyd “foddi ei gariadau yn Llyn y Ferlas, yn lle gadael iddynt gael cyd-fyw yn yr Hafod, sef Hafod Garegog.” (Tro anffodus yng nghynllun y gerdd “oedd eu boddi hefyd,-chware teg i’r “Hen Las.”- Carn.) Mae cerdd “Bugail y Gorllwyn” yn un naturiol a darluniol iawn. Rhyss amlygiad o deithi swynol ei awen ber. Aeth Edward Lloyd o’r chwarel i Glynnog, yna i Athrofa y Bala. (Yr oedd yno ar unwaith ag Alafon, Anthropos, ac eraill,-Carn.) Daeth yn bregethwr sylweddol ac ymroddedig, er nas gellir dweud “ei fod yn bregethwr mawr,” ond gwnaeth diwydrwydd a phenderfyniad waith go dda arno, ac ystyried y bu’n weithiwr yn y Rhosydd.
William Parry, Pren Teg, fu yma. Cyfaill siriol a chalon addfwyn. Datganwr medrus a swynol. Bu yn arweinydd y gan yng nghapel Pren Teg am gyfnod maith, ac yn flaenor ymroddedig. Yr oedd yn gyfaill agos a chynnes a Thegfelyn, ac yr oedd yn wr mwyaf hoff ac annwyl ym Mhren Teg. (Clywais rai yn ei alw yn “Flodyn Pren Teg.”-Carn.) Bu ei dad, Edward Parry, yn gweithio am gyfnod yma. Gwr heb fod mor dal a’i fab, ac yr oedd dyddiau ieuenctid wedi cefnu arno cyn i mi ei adnabod.
Griffith Williams, brodor o’r Garn. Gwr cydnerth, wedi ei anurddo yn lled drwm yn ei wyneb gan y frech wen. Cario y rwbel oddi-wrth y meinars oedd ei waith ef. Yr oedd ganddo wagen lled fawr, a dwy ddolen a bar haearn o’r tu o li ymaflyd ac i sefyll i ddod allan gyda’i lwyth, ac, yn wir, byddai yn dyfod gyda’r cyflymdra mwyaf, ac yn cadw y bariau yn dd, er y byddai rhedegfa wagen Griffith William yn chwim, ac yn teithio mewn tywyllwch, ni anafodd neb erioed.
David Jones, Cwm Prysor fu yn aros yma mewn cyfnod diweddarach ac yn tipi oar ben y domen.. Gwr llon a charedig iawn, blaenllaw iawn yn yr Eglwys. Codwr canu rhagorol, ac yn flaenor effro iawn. Bu ei fab, David D. Jones, yma am gyfnod, yn chwarelwr dyfal a gweithgar iawn. Yr oedd, fel ei dad, yn llawn o ysbryd can a moliant. Rhyfedd y daith oedd ganddynt bob wythnos o Gwm Prysor, heb na char na cheffyl i’w cludo.
Bu amryw eraill yma, Edwrad Williams, Ty’n Ddol, a’i fab;Tom Griffith, “Yr Hen Droli,” o Dre Madog. Gwr bach diddan a ffraeth ei air.
Moses Jones, Hafod Uchaf, Cofiaf yntau yma. Cafodd bas un troy n wagen Griffith William, na bydd yn angof ganddo. Dyma’r pas cyflymaf y gafodd erioed!
Wel dyna ychydig o’m hatgofion am amryw o fy hen gyd-weithwyr, a diameu fod eraill wedi bod yn aros yn “Hen Farics y Meinars” na wnaethum sylw ohonynt. Nid oes neb yn lletya yn yr hen adeilad yn awr. Chwith gennyf wrth edrych yn ol a meddwl am yr hen gymeriadau diddan a hoff sydd wedi myned “draw, yn lluoedd o fy mlaen.”
HUGH G ROBERTS (Croesorydd)
26/3/1929
Herald Gymraeg
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment