Skip to main content

Galarnad y "Ceir Gwyllt". Barddoniaeth sy'n amlygu enwau'r Ceir Gwyllt a ddefnyddiwyd yn y chwarel.

Disgrifiadau

Mae popeth bron yn newydd
Ar fynydd ac ar fôr,
Tra'n hen yn unig erys
Mewn hanes yn ystor;
Yn dilyn dydd galarnad
"My Lord" am ride and drive,
Daeth diwedd car y gweithwyr
Yn eighteen nintey-five.

Yn iach gerbydau gwylltion,
I'ch cicio ac i'ch troi;
Mae'ch enwau drwy'r alarnad
Mewn irad wedi'u rhoi;
Ffarwel i "Garibaldi"
"Eryri," a'r "Pry Llwyd,"
Y "Gaseg,"gyda'r "Ebol,"
Fu'n mynd heb fol na bwyd.

Mae "Vivian,""George," a "Gladstone,"
A "Livingstone" a "Stag,"
A "Picton" hefo "Nelson,"
A "Samson" i gael sag;
Caiff "Jennie Bach" a "Hobley"
O'r neilltu fynd am byth;
Ffarwel 'run ffordd a "Snowdon,"
"Victoria," "Llew," a Smith."

Ta-ta'r hen "Sian" a "Peris"
"Tom King," a'r "Marquis" mawr,
Gan uno "Albert," "Ashton."
A "Wellington" i lawr;
Tra'r "Prince Llywelyn," yntau,
A'r llanciau ym mhob llun,
Fe'u cwympir rhag yr ager
I'r gwter bob yn un.

Wrth ildio cicio'r "Cacwn"
Ffarweliwn heb un ffrae;
Tra'r rhown i fyny'r "Vaynol"
Ar goll i Chwarel Cae;
A thithau yr hen "Fules,"
Hudoles plant y plwy',
Mae'th enw i'w anwylo-
Ffarwel i'th gicio mwy.

Er cof am "Fox" a "Timbol,"
A "Blondin" gyda blas,
"Meredydd," "Bright," a "Stanley"
A "Foli," car y bass;
"Dinorwig" a "Pandora,"
A'r "Wylfa" ddaw i lawr,
"Caradog," "Madog," "Menai,"
Ta ta i'r fintai fawr.

Yn olaf rhaid ffarwelio
A'r hen "Falwoden Lwyd,"
Ni welwyd mewn bodolaeth
Ei bath am gario bwyd;
O oes ryw enw arall
Heb gael ei ddwyn ar 'go,
Wel, rhowch y bai i ddisgyn
Ar fechgyn Cwm-y-Glo.

Fe dderfydd Panorama
Yr yrfa gyda hyn,
Ni welir mwy eu cysgod,
Lle hynod yn y llyn;
Gan fynd a'u pennau i waered,
A'u traed wrth draed yn cwrdd,
Ac oll fel dwbl fintai
Yn ffoi o chwith i ffwrdd.

Hwre i dren y gweithwyr,
Ac i'r boneddwr mad
A'i mynnodd er ein mwyniant,
Teilyngant glodydd gwlad;
Fel hyn mae'r byd a'i bethau
Yn rhwydd fyrhau ein hynt,
Gan fyned ar olwynion
I'r pen yn gynt, yn gynt.

AP GLASLYN.

Herald Gymraeg
19/05/1947

Owner:
LleCHI LleNI
Crëwr:
Herald Gymraeg 19/05/1947
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2025
Eitem wedi’i llwytho:
15/1/2025
Date originally created:
18/1/2025
Gwelediadau:
177
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment