Hanesion cymuned Dinorwig, bywyd y chwarelwyr gan Mrs Mary Ellen Jones: Ffair Nant, Tragwyddoldeb Stores, Siop Cakes, Siop Catrin, Cryddion, Twenty Pound Stores.
Disgrifiadau
Ffair Nant, Tragwyddoldeb Stores, Siop cakes, Siop Catrin, Cryddion, Twenty Pounds Stores
Cofnod Mrs Mary Ellen Jones, Dinorwic.
Byddem yn cael mynd i Nant Peris i fan’no ar y deunawfed o Fedi a byddai pawb yn mynd i Ffair Nant o fan’ma te, a fyddai’r Ysgol yn cau yma i ni gael mynd am y prynhawn, a wedyn byddem yn mynd trwy’r chwarel, a wedyn byddem yn cael ceiniog gan ddynion y chwarel wrth fynd wyddoch chi, byddem yn cael ceiniog i gael india rock a gofalu dod a tamaid o india rock wrth ddod yn ol te iddy nhw ia. Wedyn cael mynd ar y swings a ceffylau pren fyddai yna. A india rock, dyna fyddem yn gael, a byddent yn gwerthu llestri, a byddai mam yn mynd hefo ni wyddoch chi bob amser te. A byddai fy nhad wedi mynd yn y bore hefo’r defaid ylwch, byddai yn gwerthu defaid yno, yn y sale yn y bore. Wedyn byddai fy nhad wedi mynd. A byddai ganddo, byddai’n mynd i aros i tŷ rhyw, o roeddem ni yn ei alw fo yn ewythr Abraham ond doedd o ddim yn perthyn i ni chwaith cofiwch, a byddai yn cael mynd i fan no cael paned o de yn fan no wrth fynd yno. Byddem yn dod adref yn un haid wedyn trwy’r chwarel, cerdded fyny yn ol wedyn. Doeddwn ni ddim yn gweld dim byd ynddo fo ylwch. Oedden yn medru cerdded adeg hynny toeddwn(chwerthin.) Ond fyddwn i ddim yn mynd i Ffair arall yn y byd te, ond Ffair Nant.
Wedyn roedd yna siop yn chwarel “Tragwyddoldeb Stores” oeddent yn galw hi. Pobl chwarel oedd yn rhoi enw wyddoch chi. “Hen Hospital” oedd enw’r lle, ond “Tragwyddoldeb Stores” oeddynt yn ei galw yn y chwarel. William Hughes oedd yn cadw honno, a pam ni yn Bron Elidir, byddwn yn mynd i nôl llaeth enwyn, byddai yn corddi bob dydd Llun yno, a byddwn yn mynd i nôl llaeth enwyn. Byddai yna ddau ddyn yn dod o Sir Fon ac yn aros yn y Barracks yn y chwarel te, ac yn dod i drin yr ordd i Mrs. Williams te, pan oeddem ni yn Bron Elidir, a cael swper yno. A dyna fyddai ei swper nhw bob nos Lun, uwch a llaeth enwyn arno fo, fyddent yn clywed dim byd gwell, meddwi nhw. A paned o de a rei ol o. Dyna oedd eu swper nhw, ag yn gweithio yn yr ardd ia. A byddai yna hwyl ofnadwy hefo hogiau’r chwarel yn mynd i’r hen hospital i nol cigarettes a pethau felly o’r chwarel wyddoch chi, doeddynt ond yn rhedeg i lawr y domen de, oedden nhw, wn i ddim beth arall, wn i ddim lle arall oedd siop.
Roedd yna siop, do fe ddaeth yna siop wedyn siop cakes oedden ni yn galw honno, ac yn gwerthu dipyn o dda, da a te a siwgr a pethau ty ynte, bwyd felly, a byddai reit hwylus yn fan ‘no. Wedyn mi ddaeth siop Catrin ‘ma, a toed siop Catrin reit siwr, a byddai Catrin, o byddai Catrin yn ffraeo weithiau, yn enwedig os byddai plant yn do dyno. Byddai plant yn ei drysu yn lan, roedden nhw eisiau ar draws ei gilydd te. A chaetho nhw ddim os byddai hi yn meddwl wyddoch chi, fuasen nhw ddim yn cael ganddi hi, os buasan nhw, os buasai yn gwybod fod nhw yn blant drwg, chaen nhw ddim ganddi hi, buasai yn gyrru nhw o yno. A mi fyddai hi yn gwneud eli, a gwerthu’r eli ‘ma at losgeira a roedd o yn dda ofnadwy wyddoch chi. Eli rhyw, doedd yna neb yn gwybod sut roedd hi yn wneud o, roedd o yn secret ganddi am wn i a fe fu farw heb ddweud wrth neb. Wn i ddim beth arall fedraf i ddweud wrthych chi.
Oedd yna gryddion yn Dinorwic hefyd?
O bobl oedd, (chwerthin) roedd y fan ‘ma yn siop grydd, y room yma lle rydych chi rwan. A fan ‘ma, yn fan ‘no oedden nhw yn trwsio esgidiau. Ond roedd yna silffoedd rownd fan ‘ma a’r esgidiau yn cael eu gwerthu yno te. A mi oedd y crydd oedd yma, roedd yn un doniol ofnadwy. Roedd ganddo fo rhai ddywediadau ond dydw i ddim yn cofio nhw, dwi ddim yn cofio nhw te. Ond byddai fo yn ac roedd yn gloff, oedd yn gloff wedi torri ei goes neu rhywbeth, roedd yn gloff beth bynnag, ac roedd o yn un doniol ofnadwy. A wedyn oedd ganddo fo ader, roedd o yn magu ader a byddai rheini hyd y wal yn fan ‘ma wyddoch chi, a byddech yn clywed nhw yn canu te. A Huw bach fyddem ni ni yn galw fo, a mi oedd ei dad a’i fam o yn byw y drws nesaf yma, yn y darn yna o’r tŷ.
A mi oedd yna siop grydd, y gyntaf dwi’n gofio yn y Fron Heulog, draw heibio’r Ysgol ffordd ‘na, a Dewi Jones yn cadw honno. A mi oedd yna ddyn yn dod yma i drwsio esgidiau ato fo yn dysgu. Roedd o yn dysgu rhai i drwsio esgidiau hefyd te, mae’n rhaid a gwerthu esgidiau dwi’n cofio hwno yno. Mi oedd yna grydd yn trwsio’r esgidiau, oedd yna ddau yn ymyl y, ar ol pasio’r chwarel fawr, yn ymyl y post, lle oedd yr hen bost, a mi oedd un ymhellach draw wedyn. Dwi’n cofio gymaint o hyn ‘na, pedwar lle. A mi oedd un lawr yn y gwaelod yn fa ‘na heibio’r cae yma. Ysgubor, Harri Williams, Ysgubor. A byddai llond y lle yn mynd i fan ‘no, yr hogiau chwarel te yn mynd gyda’r nos wyddoch chi, chware darts a cardiau gyda’r nos yn cwt, a Harri Williams wrthi te yn trwsio esgidiau te. Byddent yn mynd yno hefo esgidiau ylwch, eisiau pedol ar eu hesgid neu rhywbeth te, ag yn mynd at Harri Williams. Byddai Harri Williams yn mynd, roedd o wedi bod ar y mor cynt, a mi oedd o wedi llosgi neu rhywbeth ar y mor, pan oedd y llong wedi….Roedd yna rhywbeth wedi digwydd iddo fo, dwi’m yn cofio yn iawn. Ac roedd hi yn amser stormus ofnadwy dwi’n cofio ei fam o yn dweud, a roeddynt yn poeni yn ei gylch o, ac yn South of England yn fan ‘no yn rhywle oedd o, mi oedd o, mi oedd hi yn stormus, yn November oedd hi, a byddaf i yn meddwl pob amser bydd yna fwy o stormydd yr adeg hynny am fod hun ‘na wedi digwydd iddo fo te… a mi oedd wedi llosgi beth bynnag, daeth adref a agorodd siop esigidiau ‘ma. I drwsio esgidiau a tynnu’r hogiau yno hefyd te. O roeddynt wrth ei bodd yn mynd yno wyddoch chi. Straeon mawr, buasai’n werth i chi glywed y hogiau sydd o gwmpas te yn gofio fo wyddoch chi. Byddant yn mynd yno yn regulars.
Dwi’n credu dyna’r siop hefo rhyw enw od; Twenty Pounds Stores oeddech yn dewud?
Wel ia, Tragwyddoldeb Stores ‘ma ydi honno. ‘O’, naci i fyny yn top ty Uchaf ‘ma, naci ddim Tragwyddoldeb Stores, top ty ucha ‘ma. Mi oedd y wraig oedd yn cadw hi yn byw yn fan ‘na Tŷ Ucha, ty agosaf i mi yn fan ‘ma. A mi oedd ni a’i chware wedi bod yn gweini yn yr Erw, yn ddim yn bell o Gaernarfon beth bynnag, yn yr Erw. A mi oedd y ddwy wedi, roeddent wedi marw yna y bobl, a mi ddaethon nhw oddi yno. A mi gawson nhw ugain punt bob un wrth ddod oddi yno, a mi wanethant brynu cwt sinc, cwt sinc reit fawr a cadw siop cigarettes a baco a pethau felly er mwyn, byddai pobl yn cerdded i fyny ffordd ‘ma i’r chwarel, cerdded o Deiniolen a ffordd ‘ma te. A byddai ganddo nhw cigarettes a matches a pethau felly te, ac wrth ddod adre wedyn byddai yn agored adeg hynny a byddai yn agored yn y bore cyntaf te, pan fyddant yn mynd i’r chwarel saith o’r gloch y bore. A felly cafodd honno ei galw yn Twenty Pounds Store.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment