Offer a thermau chwarel.
Disgrifiadau
Hen arfau a thermau’r chwarel
Rhys: Gordd bren fawr i dorri pileri ar daws, efallai y tardd o rhus, cnoc sydyn(rush)
Cowjan, neu cowtsin; math o gyn main i dorri ffod ar dalcen plyg cyn defnyddio cyn pileru;rhaid gwyro neu benlinio i'w ddefnyddio(crouch)
Cyn; cyn manhollti, cyn brashollti, y cain(keen).
Ebill: eb-bill, pill eglur, tincian wrth dyllu.
Mwrthwl; mwrthwl sengal, mwrthwl dwbwl hand.
Miniar; cyn bach; miniar fawr a chlaspiau haearn i agor hollt yn y graig (minor).
Rhaff; gall y tardd “raff” Saesneg.
Gwif; trosol, arwyddlun egwyddor pob gallu (lever).
Rhaw; rhaw twr cras (roar)
Trafel; i eistedd arni i naddu llechi (travail). Cyllell naddu llechi.
Pren mesur; pren i fesur y llechi wrth naddu, hoel ar ei flaen, a stepiau modfedd a dwy fodfedd ar ei hyd.
Llif i lifio bwlch; darn o fôn llafn pladur yw hwn.
Gordd; gwrdd (mighty).
Catris; i roddi powdwryn y twll (cartridge)
Briscyn; lwmp o dan wif i godi plyg (brisk)
Sgrapar; i lanhau’r twll (scraper)
Corn powdwr; corn eidion fyddai hen.
Powdwr du, dynamite, gelentine, powdwr cotton, etc.
Ffiws; “fuse”; gwelltyn rhyg a’i lond o bowdwr a ddefnyddid gynt.
Papur poeth; papur llwyd wedi ei fwydo mewn solpiter a’i sychu wrth dan, I'w ddefnyddio i danio’r ffiws.
Gwal: gwal medd rhai, nid oedd ond gwal yn y dechrau, ac ychydig lechau o do uwch y plocyn hollti a’r pentwr crawiau, neu’r fainc sglodion (wall)
Bargen; y darn craig oddeutu saith lath o led a weithiau gan bob dau bartner, a bargeinid gynt am y pris gyda’r gosodwur bargeinion (bargain)
Sglont; gwahaniad rhwng dau wely o lechfaen (slant)
Troed glas; y peth gwerthfawr gan chwarelwyr yn y lechfaen, y mae’n ysgwario’r cerrig a’u rhywiogi.
Cropa; toriad yn y graig sy’n dra pheryglus a garw weithiau, achosa rwb mawr disymwth (cropper)
Post gwnithfaen; carreg dan a lifodd allan yn hylif poeth trwy graciau yng nghrystyn y ddaear.
Y Las Wyllt; y lechfaen oddeutu’r post gwnithfaen.
Dyma bethau a wel chwarelwr yn y lechfaen; cefn, crwb,befel (level), edafedd, bodiau, crych, baw ieir, llwyd gwythien, etc.
Enwau’r llechi: cwins, prinsus, dytsus, cowntis, ladis, pyts, cerrig dwbwl, a cherrig mwsog.
Cyfrir y llechi fesul tair, “mwrw” sef mor-rif-rifo pysgod.
Herald Gymraeg
Llun Rhagfyr 1943
Tud 6
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment