Catrin Matthew, Bydwraig, Llanllechid.
Disgrifiadau
Catrin/Catherine Matthew
Y mae gan y rhyw fenywaidd, yn ogystal a’r rhyw wrywaidd, ddylanwad mawr ar gymdeithas, a’r cylchoedd y byddant yn troi ynddynt yn mhob oes a gwlad; ac nid y leiaf yn mhlith merched Bethesda oedd yr hen Catrin Matthew, y fyd-wraig ewnog, yr hon yr oedd ei chlod drwy yr holl wlad, a dylasem cyn hyn fod wedi gwneyd rhai sylwadau a rei marwolaeth; ond amgylchiadau anocheladwy a’n hataliodd. Ganwyd pedair cenhedlaeth o’r teulu hwn yn mhlwyf Llanllechid, sef ei hen nain, ei nain, ei mam, a hithau. Priod ydoedd i’r diweddar Mr John Matthew, Bryntirion, Bethesda. Bu yn weddw am ddeuddeng mlynedd. Bu iddynt ddeuddeg o blant, o ba rai nid oes ond 2, yr hynaf a’r ieuengaf, yn fyw. Bu fyw am y 14eg mlynedd diweddaf o’i hoes gyda’i merch ieuengaf, a buy n fam dda iddi hi a’i phlant a adawyd yn amddifad. Fel bydwraig, yr oedd yn dra adnabyddus drwy yr holl ardal, a’i chlod yn uchel iawn; ac y mae llawer a dderbyniodd i’r byd yn llenwi swyddau uchel yn y wlad, ac ar hyd a lled y ddaear, ymhlith y Cymry, Derbyniodd y nifer mawr o 797 o blant i’r byd, a hyny mewn dwy filltir o gylch. Y diweddaf a dderbyniodd hi i’r byd oedd geneth fach Mr a Mrs O.O.Jones, Shop Brynteg, a hyny ddechrau y flwyddyn hon; ac yr oedd ei dull medrus a bywiog yn trin y plenty hwn, a hithau yn y roedran patriarchaidd o 83ain mlwydd, yn tynu sylw neilltuol, ac edmygedd ein meddyg parchus, Dr. Williams, nes yr oedd yn gorfod tystio na welodd neb erioed mor ddeheuig a bywiog a’r hen Gatrin Matthew, a hyny yn yr oedran a nodwyd. Yr oedd ei theulu oll wedi myned i fyw i oedran mawr.
Baner ac Amserau Cymru, Gorphenaf , 1878.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment