Skip to main content

Llechi'r post, Waunfawr.

Disgrifiadau

Llechi’r Post
(Buddigol yn Eisteddfod Waun Fawr)

Bu’r llechi o flaen llythyrdy y Waun Fawr am flynyddoedd lawer, i gadw hawl y tŷ o’r briffordd, a buont yn brif le i’r ieuainc a’r canol oed i gyrchu at ei gilydd i adrodd hanesion, a thrin pethau’r byd, ac yn enwedig ar nos Suliau i ganu emynau. Erbyn heddiw mae’r llechi gleision wedi myned o’r golwg a choncrit llwyd wedi ei roi yn eu lle. Nid oes neb yn sefyll yna heddiw ond am ychydig funudau i ddisgwyl y moduron am dref Caernarfon. Ni wyr y plant sy’n codi yn awr am ‘Lechi’r Post’ mwy nag am feini ‘Mynachlog Ystrad Fflur’.

Mae anodd canu can
I’r testun, coeliwch fi,
Mae’r llechi gleision glan,
O’r golwg rhag y lli’;
Os bwriai gawod yn y nos
Fe safai’r dwr ar “Lechi’r Pos”.

Rhyw law fu yn eu rhoi
Ynghol blynyddoedd maith,
Cael chwarae fel y gwynt
Ar hyd y llechi llaith,-
A chuddio weithiau gyda’r nos
O dan ffenestri yr hen Bos’.

Mi glywais ganu mawl
Emynau dwyfol Duw,
A chennyn ni ‘rioed hawl
Mewn oes oedd werth i fyw,
I gyrchu tua “Llechi’r Pos’”
Yn dyrfa ddifyr gyda’r nos.

Bu yno lawer bardd
Yn adrodd gwaith ei hun,
A llawer llencyn hardd
Yn disgwyl am ei fun;
Ond erbyn heddiw nid oes un
Yn sefyll yno wrtho’i hun.

Er fod y cyfnod hwn
Yn gwella’r ardal lan,
Mae llawer dan eu pwn
Yn methu canu can;
A’r llechi gleision wedi mynd
I ffwrdd i ganlyn llawer ffrynd.

Fe fagwyd llanciau llon
O gylch hen “Lechi’r Pos”
Mae llawer dros y don,
Yn huno ger y ffos,-
Ac eraill yn y Waun o hyd
Ym merw amgylchiadau’r byd.

Sawl llythyr ddaeth ar hyd
Y llechi yn eu tro?
A sawl cyfrinach fud
Anfonwyd i'r hen fro?
Ac ambell un yn llythyr llaith
Am rywun wedi cefnu’r daith.

Mi welaf dyrfa lan
Ar balmant yr hen Bos’.
Yn ddifyr gyda’u can,
I’n llonni gyda’r nos;
Mae’r plant sydd heddyw’n mynd i'r dre,
A’r gwynt yn chware yn eu lle.

JH THOMAS

Cwm Bychan, Betws Garmon.

Owner:
LleCHI LleNI
Crëwr:
Llechi’r Post (Buddigol yn Eisteddfod Waun Fawr) Herald Cymraeg 23/05/1938. J H THOMAS, Cwm Bychan, Betws Garmon.
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
15/1/2025
Date originally created:
16/1/2025
Gwelediadau:
241
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment