Sion Ifan, Waunfawr. Barddoniaeth amdano yn gorffen ei waith yn y chwarel lechi.
Disgrifiadau
Sion Ifan
Bu llawer o ffarwelio
Ym mhonciau’r gwaith cyn hyn,
A gwelwyd llawer llygad,
Yn cronni megys llyn,
Daeth cyfle arall heibio
I ddilyn trefn y gwaith
A phwy nad yw yn teimlo
Ei ruddiau’n mynd yn llaith?
Wrth golli’r cyfaill diddan,
Sion Ifan o’r Waunfawr,
Pwy sydd nad yw yn teimlo
Ei eisiau ef yn awr?
Ni chlywid ef yn cwyno
Wrth godi’r tlawd i'r lan,
Na chanu’i glod ei hunan
Wrth gofio am y gwan.
Mae atgof yn y bore
Daeth yma gynta’ erioed,
Yn hogyn bach o’r ysgol
Yn ysgafn iawn ei droed,
A chyn ei fod yn ddeuddeg
Fe riglodd llawer llwyth,
Gan iddo dechrau gweithio
Pan ydoedd ddim ond wyth.
Paid wylo Harry Williams,
Wrth golli’th gyfaill cu,
Cei fynd rhyw Sadwrn Cyfri’
Yn llawen dros Cefn Du;
Paid aros ar ei gopa
Ond llithra’n is i lawr
Nes cyrraedd pen dy siwrna
Yn ddiogel yn Waunfawr.
Pen y Golwg R.EVANS
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment