Barics - Baricsiaid - Bricsio - storiau chwarelwyr - Atgofion James Parry - Ffestiniog
Disgrifiadau
Y Barics, gan James Parry
Na, nid rhagor o atgofion un o gadfridogion y rhyfel diwethaf sydd i ddilyn y teitl hwn. Nid hanes beunyddiol milwr cyffredin ychwaith. I chwarelwr nid cartref catrawd o filwyr yw'r 'barics' ond y llety a ddarperid ar un adeg ar gyfer gweithwyr a deithiai o ffordd bell ir chwarel. Arhosai'r chwarelwyr hyn yn y barics yn ystod yr wythnos ac aent adref i fwrw'r Sul. Yr oedd bywyd yn rhatach a chaent lawer mwy o ryddid mewn barics na phe baent yn lletya mewn tai. Deuthum i fyw ir barics gyntaf pan ddechreuais weithio yn y chwarel yn llanc, tua diwedd y rhyfel byd cyntaf. Ond yr oeddwn wedi clywed llawer o sốn am y barics cyn imi erioed ei weld, gan fod fy nhad yn 'bricsio'-fel y gelwid byw yn y barics yn Ffestiniog o'm blaen. Rhenid pob barics i nifer o unedau bychain. Yn wir edrychent yn debycach i res o dai nag i westy. Yn ein barics ni yr oedd pedwar tŷ ac arhosai pedwar neu bump o ddynion ymhob un.
Nesaf i’r tan
Yr oedd dwy ystafell ymhob ty- un llofft ac un ystafell fyw. Wrth ffenestr yr ystafell i lawr grisiau yr oedd bwrdd hir, a mainc i eistedd wrtho. Wrth ben y bwrdd, y nesaf ir tân yr oedd un cadair freichiau. Neilltuid hon ir hynaf o'r criw, ac ef oedd yn gyfrifol am dalu'r rhent a thalu’r biliau am bopeth a brynid ar y cyd, megis glo, paraffin a thê.
Talai pob lletywr swllt yr un bob mis o rent, a deuswllt yr un y mis i ddynes a ddeuai i lanhau'r ty a chynneu tân yn barod erbyn y deuent adref gyda'r nos. Defnyddiem ganhwyllau i oleuo, ac nid oeddynt hwy yn gostus iawn. Telid yr holl gostau yn fisol, ar ddiwrnod tâl; ac os yn perthyn i’r chwarel yr oedd y barics, delid y swllt rhent o'r cyflog. Codai pawb yn ei dro i wneud tân yn y bore, a gofalai pob un am ei goed tân ei hun. Y gamp oedd cael tan coch gwresog cyn i’r lleill godi, a chodai rhai yn fore iawn er mwyn sicrhau hynny. Yr oedd gan bawb ei gwpwrdd bwyd ei hun rhyw focs ar y pared gyda stwffwl a pheg ynddo i'w gadw ynghaead. Ni fyddai neb yn ei gloi. Yn y cwpwrdd cadwem y bwyd a ddygem gyda ni o'n cartrefi bob bore Llun.
Y badell ffrio
Byddai un padell ffrio ym mhob barics; a'r rheol oedd i'r cyntaf godai yn y bore gael ei defnyddio gyntaf, a'r cyntaf i mewn gyda'r nos yr un fath. Cedwid y badell ar hoelen ar y pared, a hawdd oedd adnabod ei lle gan fod ôl saim yn diferu ar y wal oddi tani. Ceid bywyd cymdeithasol pur bleserus yn y barics. Treuliem gyda'r nos yn darllen, canu emynau o'r tafleni cymanfaoedd, chware "draughts," ac yn dadlau a thrafod pynciau fel gwleidyddiaeth, crefydd, a materion y dydd. Cadwai pawb ei dymer yn dda iawn yn y dadleuon hyn, ac ni chlywais ffrae erioed, er y gwahaniaeth barn. Clywais y cynhelid cyfarfodydd gweddi yn y barics amser diwygiad, a chofiaf rai yn mynd i gapel y Rhiw i’r seiat a'r cyfarfod gweddi. Ai’r rhan fwyaf ohonom i’r cyfarfod gweddi ddechrau’r flwyddyn. Ond aeth crefydd i chwarae rhan llawer llai amlwg cyn i gyfnod y barics ddarfod a daeth pethau fel y cwponau ffwtbol i gymryd ei le, a daeth cywiro'r cwpon yn rhan o fywyd у barics.Y newid hwn, mae'n debyg, a barodd i’r hen Ddafydd Ifan Dre' ddweud with un or hogiau un nos Lun “Wil bach, ‘rwyt tin gwneud y barics yma'n uffern hefo dy 'hard lines!' "
Yn y barics i fyny yn y chwarel, yr oedd yn arferiad i bawb fwyta eu swper gyda'i gilydd. Os aethai un o'r criw am dro i farics arall ac heb ddychwelyd mewn pryd i swper air "band" i'w nol. Rhyw fand taro pur swnllyd oedd hwn o offerynnau mor bersain à bwcedi, piseri a thuniau yn cael eu taro à darnau o bren. Safai'r band o flaen y barics y byddai'r troseddwr ynddo, a dal i guro nes y dol allan; ac yna ei hebrwng yn ôl i’w farics ei hun. Ystyrid hyn yn gryn sarhad arno.
Deuai ambell chwanen ar ei thro i'n poeni, a gosodai rai gwrlid rhyw blanhigyn sy'n tyfu mewn lleoedd gwlyb- rhwng y matres i i geisio eu difa neu eu symud i ffwrdd. Ond ni phoenid ni gan chwain lawn gymaint ag y credech wrth glywed rhai straeon a adroddid am chwain y barics. Un ohonynt oedd y goel y deuent i chwilio amdanom os nad oeddem yn y gwely cyn deg o'r gloch.
Clywais hefyd am un hen frawd ym marics y Rhosydd yn llusgo'i wely allan ir haul un bore braf yn y Gwanwyn. Gofynnodd rhywun iddo beth yr oedd yn ei wneud. "O," meddai, dim ond mynd a'r plant yma am drip!"
Digwyddai troeon digon trwstan yn aml. Cofiaf un tro ddadlau brwd ar adeg etholiad, tra yr oedd William Jones o'r Garn wrthi yn paratoi swper a chymryd rhan wresog yn y ddadl yr un pryd. Agorodd baced chwarter pwys o dê, ac heb iddo ef na neb arall sylwi beth a wnai, rhoddodd lwyaid neu ddwy yn y canestr, a'r gweddill yn y tebot. Bu sôn hir am y tê hwnnw.
Dro arall aeth dau at i wneud pwdin reis. Rhoddodd un ohonynt y llefrith yn y sosban a gofynnodd i’r llall faint o reis oedd eisiau,” Well i ti roi’r pwys i gyd gan fod yna ddau ohonom,” meddai’r llall. Pan ddechreuodd y pwdin ferwi drosodd aeth un ohonynt i nol powlen i godi peth iddi i’r pwdin gael lle yn y sosban. Pan lanwyd y bowlen aed i nôl un arall, ac felly llanwyd pob bowlen, piser, jwg a chwpan yn y lle, ond dal i godi wnai’r pwdin. Dechreuodd y ddau fwyta o'r sosban, ond daliai’r pwdin i chwyddo a chodi. Ni wn ddiwedd y stori na phwy a fwytaodd weddill pwdin!
Stori y glo
Y stori gyntaf a glywais am farics oedd yr un a glywais gan fy ewythr Harry a oedd yn bricsio yng Nghwmorthin. Daeth un o'r stiwardiaid, Andreas Roberts, i’r barics un diwrnod a dweud wrthynt am glirio popeth o'u heiddo. Yr oedd rheolwyr y chwarel, meddai ef wedi penderfynu tipio rwbel ar ben y barics a'i ddileu, gan eu bod yn amau fod y gweithwyr a letyai ynddo yn dwyn glo'r chwarel. Syfrdanwyd y criw gan y fath gyhuddiad, a mynent, ar eu gwir, nad oedd yr un ohonynt erioed wedi cyffwrdd yn y glo. Ond ni wrandawai'r stiwart ddim ar reswm meddai f'ewythr, a chlirio fu raid, a chladdwyd y barics. Ar ddiwedd ei hanes trist dywedodd f'ewythr—"Ond cofia di 'doeddan ni ddim wedi prynu clap o lo ers pedair blynedd chwaith!"
Er y miri a’r hwyl rhyw wneud y gorau o’r gwaethaf oedd byw mewn barics wedi’r cyfan; a phawb yn dyheu am weld yr wythnos yn tynnu i'w therfyn er mwyn cael mynd adref i fwrw'r Sul. Ni fyddai neb mewn tymer dda iawn i ddechrau'r wythnos, ond gwella'r hwyl ar bawb fel i'r wythnos fynd ymlaen. Trobwynt yr wythnos oedd pan glywid gyntaf rywun yn dweud "Mae o wedi syrthio ar ei wyneb i ti." At y tamed menyn y cyfeirid. Deuai pawb a phwys o fenyn gydag ef fore Llun, a thua nos lau neu fore Gwener aethai’r cilcyn menyn cyn lleied fel na allai sefyll mwy, a syrthiai ar ei wyneb- arwydd sicr fod yr wythnos ar ddod i ben. Fel y canodd William Williams, Bryn Llys, Blaenau Ffestiniog :
Pan yn gweithion galed
Yn Ffestiniog draw
Melys ydyw meddwl
Nos Sadwrn eto ddaw.
Ar ôl bod yn barics
Ar hyd yr wythnos faith
Mae'r gweithwyr fore Sadwrn
Yn cychwyn ar eu taith.
At weithwyr y Garn y cyfeiriai. Teithient yn y trên bach gyda gweithwyr Beddgelert, Tremadog, Penmorfa ac eraill, a deuent yn ôl ar y trên fore Llun. Ar fore Llun dechreuai'r gwaith ychydig yn ddiweddarach nag ar ddyddiau eraill, er mwyn ir gweithwyr hyn gael amser i fynd i'r barics i newid eu dillad a chael cwpaned o dê cyn dechreu gweithio. Pan ddaeth trafnidiaeth yn fwy hwylus daeth cyfnod y barics i ben; ac er fod llawer o/atgofion melys yn aros amdanynt nid oedd neb yn mwynhau byw mewn barics rhyw lawer. Clywais mai gweld gweithwyr y Garn yn cerdded heibio ar brynhawn Sadwrn, yn eu hwyliau gorau am eu bod yn mynd adref ar ôl bricsio am wythnos a symbylodd Emrys, y bardd o Borthmadog, i ganu'r emyn sydd a'i ail bennill fel hyn:
O! mor hoff yw cwmni'r brodyr
Sydd an hwyneb tua’r wlad
Heb un tafod yn gwenieithio-
Heb un fron yn meithrin brad;
Gwlith y nefoedd ar en profiad,
Atsain bryder yn eu hiaith,
Teimlant hiraeth am eu cartref,
Carant sôn am ben y daith.
CABAN
Rhagfyr 1961
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment