Skip to main content

Beti Ffowc, Clegir, Llanberis.

Disgrifiadau

Erthygl 1:
Detholiad o’r dyddiau gynt.
Gan Glan Rhyddallt
Hen Gymeriadau’r Clegir

BETI FFOWC
Rhyw ddwywaith neu dair y gwelais i Beti Ffowc yng nghapel Clegir, byddai golwg hynod arni oherwydd gwysgai’r ddiwyg Gymreig a’r het uchel, a neb arall yn yr ardal yn gwisgo felly. Hen ferch oedd Beti, yn byw ei hun, yn niwedd ei hoes, mewn tyddyn bach ar gwrr y mynydd. Yr oedd ganddi fuwch las orau yn y plwyf, ebe hi, a ymffrostiai ynddi; ac ymffrostiai hefyd yn ei diweirdeb hi ei hun bob amser. Methaf a chofio enw’r fuwch, ond rwy’n cofio enw ei chi defaid hardd, sef ‘Pero,’ a’r gath wryw ‘Twsog’-llygriad o ‘Tywysog,’ mi dybiaf. Byddai’n siarad llawer gyda Pero a Twsog, yn enwedig ar ol marw Ellen, ei chwaer, yr hon a fu’n orweiddiog am y saith mlynedd olaf o’i hoes. Ffowc Roberts, y canwr, oedd eu tad, a’i offeryn cerdd ef oedd rhywbeth tebyg i bib fawr. Yr oedd yn athro cerddorol yn ei oes, a gwnaeth lawer donau ac anthemau. Ef a ddysgodd gerddoriaeth i hen seindorf gyntaf Llanrug. Caf adrodd hanes Ffowc Roberts y tro nesaf. Nid peth anarferol fyddai gweled llo bach yn rhwym wrth droed y bwrdd yng nghegin Beti Ffowc; felly y byddai’n dechrau magu’r lloi yn niwedd ei hoes. Hefyd byddai’r ieir yn clwydo’n rhes ar y pren hwnnw oedd yn cysylltu coesau’r bwrdd wrth ei gilydd. Gyda’i bawd y taenia ymwenyn ar fara, sef y dull hen ffasiwn, onide?
Yr oedd Beti’n blaen ei thafod, ac yn ffraeth hefyd…….Byddai’n gweithio fel dyn yn y caeau…..Claddwyd Beti yn mynwent Llanrug.

Herald Cymraeg 05/01/1942

Erthygl 2:
MERCHED FFOWC Y CANWR

Ni chofiaf Ffowc Bach, y canwr, ond cofiaf ei ferched yn dda, sef Beti a Neli, fel galwem hwynt. Hen ferch dal oedd Beti, yn gwisgo y ddiwyg Gymreig, a’r het fawr, ac yn taenu ymenyn ar y frechdan gyda’i bawd, yn ol hen arfer rhai o ferched yr oes honno, meddir. Yr ydoedd yn gawres, yn gallu torri gwair a’i gario, a gwarchod ei pherllan eirin fel dyn, pan ddeuai’r bechgyn i’w lladrata; ymlidiau hwynt, gan eu galw’n ‘ddwylo blewog.’ Ni chlywais i erioed enw ar y tyddyn, dim ond ty Beti Ffowc, ond diau fod iddo enw. Cafodd Beti bisyn deg swllt lawer tro gan Yswain y Faenol, pan ddeuai hwnnw i’r parc mawr i saethu ieir mynydd, am gymryd arni fod dipyn o gipar ar y lle, oherwydd fod ei thyddyn yn terfynu a’r parc. Byddai Beti yn dod a’r llo bach i’r ty weithiau, ac yn ei rwymo wrth droed y bwrdd. Digon hysbys ydyw englyn ‘talcen slip’ a wnaeth Eidiol Mon iddi, fel hyn;-

Un noson ym Mai nesa’-yr oeddwn
Mewn breuddywd ysmala,-
Gweled prif rosyn Gwalia.
Beti Ffowc yn byta ffa.

Eidiol Mon

Herald Gymraeg 26/06/1933

Erthygl 3:

Ymholiad am Ffowc Roberts
"Ffowc bach y canwr"

Annwyl Garneddog,

Darllenais lythr cares i Ffowc Roberts (Ffowc Bach y Canwr, Clegir) yr wythnos o'r blaen a gwelaf eich bod yn awyddus i wybod os oes carreg yn dynodi hynell Ffowc Roberts, y Cerddor, yn mynwent Llanddeiniolen. Derbynais lythr diddorol gan gyfaill a ddywedai mai yn mynwent Llanfihangel-yn-rhug, ac y Clegir. Y mae carreg fechan ar ei fedd, a chewch wybod ymhellach ymlaen beth yw'r toriad sydd arni. Y mae rhai o'r teulu y cyfeiriodd ei berthynas Jane Thomas, Maerdy, atynt yn yr "Herald Cymraeg" o'r blaen, yn byw yn Llanrug, sef Mrs Edwards, a'r teulu. Yr oedd llawer hynodrwydd yn perthyn i Beti Ffowc, chwaer Ffowc Bach. Un tro daeth yr Anrhadeddus Ashton Smith i saethu i'r Parc ar hyd y mynydd lle preswyliai Beti. Pan welodd Beti ef, dyna hi ar ei ol a phastwn gan geisio ei hel yn ei ol, a chymryd arni dybio mai un heb hawl i'r helwraeth oedd. Gwisgai yn garpiog, o bwrpas efallai, i geisio tynnu rhyw bunt o boced y gwrbonheddig.

Yr eiddoch yn gywir,
Bob Huws.
Llanrug.

Herald Gymraeg 23/05/1922

Erthygl 4:
Manion o'r mynydd
gan Garnedd

Llythr cares i Ffowc Roberts,
(Ffowc Bach y canwr)
38, Heol Oxford, Maerdy,
Sir Forgannwg,
Ebrill 12, 1922.

Annwyl Garneddog,
Wele fi'n anfon ychydig o hanes teulu fy mam, sef teulu Ffowc Roberts, y cerddor. Fy nain (mam fy mam), oedd Beti Roberts, chwaer i Ffowc, a elwid ar ei priod yn Beti Edwards. Enw fy nhaid oedd Edward Edwards. Yr oedd ganddynt wyth o blant, sef dwy ferch a chwech o fechgyn. Yr oeddynt yn byw yn ochr uchaf Bryn'r Efail, ac y mae yn Half-way i Gelyn Uchaf, a'r Clegir. Bu fy nhaid farw yn 90 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Llanddeiniolen. Bu fy nain farw gyda fy mam a nhad yn Nhan y Pant, a saif rhwng Llanberis a Chwm y Glo, sef gyda'i merch, Marged Owen, a'i gwr Morris Owen Price, (Pryce, neu Prys), a chladdwyd hithau yn Llanddeiniolen. Yr oedd yn 94 mlwydd oed. Yr wythnos cyn i nain fawr daeth "Ffowc Bach" i edrych amdani, a dyma'r tro olaf iddo ddod i lawr o'r mynydd-dir i'r ffordd fawr. Bu yntau farw'n lled fuan. Fy nhad oedd gydag ef pan y bu ef farw. Yr oedd yn 97 mlwydd oed. Nid wyf yn siwr a roddwyd carreg ar ei fedd.
Ar ol claddu fy Nain a Ffowc, aeth fy nhad a mam i Dan y Pant i fyw i Gwm y Glo, ac oddiyno aethant i Granville, yr Amerig, lle y buont am ryw dair blynedd. Daethant yn ol i Gymru gan fyw yn Water Street, Carneddi, Bethesda. Bu fy haid farw ymhen blwyddyn ar ol dod yn ol, a chladdwyd ef yn mynwent Glan Ogwen. Wedi peth amser, daeth fy mam i lawr i Maerdy ataf fi. Yma y bu farw yn 80 mlwydd oed, a chladdwyd hi yn Mynwent Maerdy. Y mae barwd i mi yn Granville, yn 81 oed.

.....
Jane Thomas
Herald Cymraeg
02/05/1922

Owner:
LleCHI LleNI
Crëwr:
Herald Cymraeg 05/01/1942, Herald Gymraeg 26/06/1933
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
2/6/2025
Date originally created:
10/6/2025
Gwelediadau:
167
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment