Barics y chwarel; dodrefn, eisteddfodau, hanesion. Barics Dre Newydd, Barics Mawr; Cefn Du, Bryn Mawr.
Disgrifiadau
DETHOLIAD O’R DYDDIAU GYNT
Gan Glan Rhyddallt
BARICS Y CHWAREL
Dywedir mai lluosog Barics ydyw “Baricsod.” Daeth o’r Saesneg “Barracks.” I ddechrau cytiau oeddynt i filwyr lechu ynddynt; yn ddiweddarach daeth yr new ar yr adeiladau lle bydd milwyr yn byw a chysgu. Sior y trydydd ddygodd hynny ar arfer, a chafodd wrthwynebaid cryf yn y Senedd gan olaid a gredent y buasid yn dwyn rhyddid y milwyr oddi arnynt, a’u cadw oddi wrth gymdeithas. Cyn hynny arferant letya mewn anedd-dai fyddai wrth law, ond dygai hynny hwynt i afael llygredigaeth yn aml. Am farics y chwarel, gwelach o ba le y daeth yr enw, er mor anhebig ydynt i’r gwreiddiol. Dechreuwyd adeiladu’r barcsod yn y chwarelau cyfnod agos i Sior y Trydydd.
Oddeutu can mlynedd yn ol dechreuwyd agor y chwarelau ar raddfa eang, a chymryd cannoedd o weithwyr mewn o ardaloedd pell oddi wrth y chwarel, rhy bell i fyned i’w cartrefleoedd dros y nos. Hefyd yr oedd ambell chwarel yn digwydd bod mewn mangre bell ac anghyfanedd. Felly rhaid oedd adeiladu tai bychain i’r gweithwyr hynny i aros ynddynt ar hyd yr wythnos, ag iddynt fyned adref dros y Sul, a dod a llond walet o fara ac ymenyn gyda hwynt bore Llun.
Yr oedd degau o faricsod yn chwarel Dinorwig gynt, ond erbyn Heddiw nod oes namyn eu hadefeilion, ac nid ydyw hyn yn rhyfedd pan gofiwn am gyflymder y moduron mawr sy’n cludo’r gweithwyr i’w cartrefi, hyd yn oed i berfeddion Ynys Mon, mewn amser byr, ac bris rhesymol. Ond mae’n chwith i lawer hen weithiwr am y barics, pe am ddim ond cael bod wythnos o olwg ei wraig; a thaenu ymenyn fel y mynai, heb i neb rygnach ei ddrudaniaeth. Cael bwyta o’r pot, hefyd, heb gael llygada hyll.
DULL DODREFN Y BARICS
Byddai’r baricsod weithiau yn strydoedd, ac weithiau’n adeiladau unigol, a lle i ryw dri neu bedwar i fyw ynddynt, a byddid yn rhoi enwau rhyfedd ar rai ohonynt, ond enw’r prif denant fyddai amlaf, megis, “Barics Sion Ifan,” “Barics Bob Jones,” etc. Wrth gwrs, byddai rhif ar ddrws pob un ohonyn,- nid oedd drws cefn ond pur anfynych, neu lle byddai ambell hen offis wedi ei throi’n farics a drws cefn issi’n flaenorol. Ni fyddai rhent y barics yn fwy na ryw swllt y mis, a byddai tenantiaid eraill yn byw yno’n rhad, oherwydd yr oedd dau anghenrhaid ar y sawl a fyddai’n byw mewn barics, sef cwpwrdd cadarn rhag y llygod, a chroen called rhag pigiadau yr ellyllon du, bach, a elwir chwain. Cofiaf am hen fardd unwaith, aro i noson ryfelgar, wedi gwneuthur englyn fel hyn mewn cynddaredd;-
“Plant man y bwgan yw’r bagaid- chwain
Pigant chwi’n chwerw ddibaid;
O aflan hil-ddiflin haid!
Heliwch, daliwch y diawliaid!”
Prif addurn y ffrynt fyddai cwt glo, a thomen lludw. Dalen yr hysbysion o’r “Herald” fyddai “blinds” y ffenestr yn aml. Eithaf di-lun fyddai’r dodrefn. Cadeiriau wedi mynd yn rhy sal i’r cartref, a bwrdd gwichlyd. Alamanacs fyddai’r pictiwrs, sef lluniau enwogion y dydd. Llawr llechi. Dim math o ddresal. Cloc bychan, weithiau. Byddai pobl Mon yn dod a gweliau peiswyn-nythle’r chwain! Byddai yna ddigon o gems, megis cardiau, a draughts,etc., ac weithiau offerynau cerdd. Gwelais un wedi cludo harmonium fechan yno i ddysgu chwarae, a chanu ar hirnosau’r gaeaf. Byddai yno ambell un yn manteisio ar y cyfle i ddarllen ac astudio. Nid pawb sy’n gwybod mai yn y barics y perffeithiodd Eryr Eryri ei ddawn gerddorol; a gwn am rai a esgynodd i’r pulpud o lawr y barics, ac i swyddau eraill hefyd. Cofiaf am un gwr a raddiodd yn M.A., wedi dechrau astudio mewn lodgin fach ger y chwarel. Myn talent amlygu ei hun lle bynnag y byddo. Deuai gwragedd y chwarelwyr i roi sgwrfa a thacluso’r baricsod weithiau gan ddod a llestri te yno yn lle’r potiau jam, bond eu crybwyll.
EISTEDDFODAU’R BARICS
Cofiaf am rai eisteddfodau doniol, a digrif, a gynhalwiyd yn y baricsod erstalwm. Ryw un neu ddau fyddai nifer y testunau. Ym maricsod Pont y Bala, ryw dro, rhoddwyd testun englyn, a phryddest, ac wythnos o amser i gyfansoddi; y beirniad oedd Llew Eryri, a breswyliai ar y pryd yn y barics. Yr oedd rai gwyr llengarol, megis Ioan Dwr Oer, Gwilym Cae’rhydau, a John Jones (Ioan Gwyrfai). Ymgeisioedd y cwbl ohonyntar y bryddest, a chredaf mai “Eryri” oedd y testun. “Tebot” oedd testum yr englyn, os cywir y cofiaf. Daeth noson yr Eisteddfod ym marics Llew Eryri, i roddi pen ar bryder yr ymgeiswyr. Daeth tyrfa ynghyd, a’r Llew yn ei hwyliau gorau yn darllen ei feirniadaeth ymfflamychol ar y pryddestau. Gwyddai o’r gorau pwy oedd pob un o’r ymgeiswyr, a dilornodd hwynt o un i un, gan nodi’r beiau ym mhob un ond pryddest Ioan Gwyrfai; ar honno gwastraffodd eiriau clod a chanmoliaeth gan ei chymharu i waith neb llai na Homer, a Fersil. Yr oedd Ioan Gwyrfai wedi codi a rei draed cyn cael ei gyhoeddi’n fuddugol wrth glywed yr uchel gymeradwyaeth a roddai’r beirniad iddo. Cadeirwyd ef gyda chwys baricsyddol, tra y protestiai Gwilym Caerhydau, a Ioan Dwr Oer, fod camwri wedi ei wneuthur. Darllenodd y beirniad rhan o’r bryddest dangos ei gogoniant fel hyn, gan atgoffa’r testun “Eryri”;-
“Hufenawg lwybrau tragyfyth,
Llithrawg weirgloddiau rhfyg, a
Heriaf chwi i ddeall fy mhryddest, etc”
Collais olwg ar Ioan Gwyrfai ymhen ychydig aro i hyn, wn i ddim beth fu ei ddiwedd druan.
Cofiaf hefyd am gystadleuaeth a fu unwaith mewn barics arall, mewn stryd a elwid “Y Dre Newydd.” Yr oedd dafad i un bachgen o’r barics wedi marw, a gofynnid am bennill neu englyn o gydymdeimlad a’r brawd yn ei drallod. Yr oedd amryw feirdd wedi gwbaeuthur ymgais i gyfansoddi pennill, ond gan and oedd eu pillau yn foddhaol awd a’r testum i’r bonc, a rhyddid i’r byd ponciog ymgeisio.
Wrth gwrs, nid oedd y brawd ei hun yn hoffi’r spri farddol. Ni chofiaf ond ychydig o’r pilliau amrwd a wnaethpwyd i’r amgylchiadau. Wele un enghraifft;-
“Yn y bora yn barics,
Pan oedd pawb yn chwarae antics,
Daeth y Newydd megis taran,
Farw un o ddefaid Parran!
Fe’m trywanodd fel dur-golyn
Yn fy nghalon, gan greu dychryn;
Pwy a wyr ‘beth ddaw a’n sobra
Yn y barics yn y bora?”
Cafodd yr uchod beth clod hyd nes y daeth gwr ieuanc o Sir Ddnibych ymlaen, gan adrodd englyn o’i waith, er syndod, oherwydd ni wyddem ei fod yn deal cynghanedd, nod oedd ryw lawer o amser er pan y daethai i’r cylch, ei new oedd Jarvis, cofion ato os yn fyw. Yr oedd Owen Peris yn gweithio yn y bonc gyda ni, a’i farn oedd yn derfynol ar bopeth o natur barddoniaeth; canmolai ef yr englyn hwn yn fawr. Wele’r englyn o waith Jarvis;-
“Ow! Y puion Huw Parri-dylodwyd
O lwdwn eleni;
Truanaidd mewn trueni
Pur amlwg i’m golwg i."
BARICS MAWR
Gwnaed barics mawr ar ben mynydd Cefn Du i fod yn gartref i ddegau o Wyddelod a ddeupwyd yma i gloddio brig oddi ar chwarelau Cefn Du, a Bryn Mawr, yr hwn a welir yno yn awry n adeilad aruthrol. Yr oedd Gwyddelod hefyd yn gweithio yn chwarelau Nant y Betws. Dywedir iddynt wneuthur ymosodiad barbaraidd ar wragedd ym Meddgelert pan oedd eu gwyr yn y seiat ryw nos Fercher. Rhedodd rywun i ddweud wrth y gwyr, a bu ymladdfa waedlyd yno. Cafwyd darn o en a locsyn un Gwyddel ar bont Beddgelert bore drannoeth, meddir. Gyrrwyd y Gwyddelod yn ol I’w gwlad; ond stori arall ydyw honno.
HERALD CYMRAEG
03/08/1936
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment