Skip to main content

Sadwrn Setlo - “Yr oedd sŵn yn ogystal a swyn i Sadwrn Setlo” - hanes diwrnod tâl ym Methesda a Blaenau Ffestiniog.

Disgrifiadau

Hanes Sadwrn Setlo

“Yr oedd sŵn yn ogystal a swyn i Sadwrn Setlo”

I drigolion Bethesda, Arfon ddeugain a llai o flynyddoedd yn ôl, diwrnod mawr ydoedd “Sadwrn Setlo”, sef Sadwrn ddiwedd y mis, pryd y telid cyflogau gweithwyr chwarel lechi Penrhyn. “Sadwrn Pwt”, ydoedd gair y chwarelwyr am y tri Sadwrn arall, gan na thelid arian allan arnynt, ond ar Sadwrn olaf y mis setlid y cyfrif misol, a chai ardal gyfan arian i'w dwylo. Aethai’r chwarelwyr i'w waith fore “Sadwrn Setlo” wedi ei wisgo’n ddefosiynol bron, mewn trowsus melfared gwyn, siaced liain wen, coler a thei, a het fowler. Pan ganai hen gloch y gwaith am hanner dydd rhuthrai pawb, yn hen ac ieuanc, tuag at y swyddfa, ac ymhen ychydig gwelid y gweithwyr yn griwiau o dri (dau chwarelwr a jermon o brentis) yn rhannu pecyn y mis ar bwys clawdd, ar ganol y stryd, neu ym mharlwr tafarn.

Cyn mynd adre rhaid oedd troi i mewn i Farchnad Bethesda. Neuadd drefol eang yw hi heddiw, ond “Y Farchnad” y’i gelwir o hyd. Ar “Sadwrn Setlo” llenwid hi a stondinau o bob math, gyda marsiandwyr o amryw genhedloedd yn eu gwylio a chyhoeddi eu nwyddau yn groyw. Oddi ar un stondin ceid llond soser o wichiaid y mor am geiniog; oddi ar un arall gwerthai un, William Edwards, Penygraig, ei gyflath cartref enwog. Ar wahan i'r Cymry, yr oedd yma Iddewon, Gwyddyi, a Saeson, yn gwerthu ffrwythau, teganau, clociau, watsus, dillad a phob llun ar daciau defnyddiol o’r fath.

Llyfrau Ail-law

Dyma gyfnod darllenwyr mawr ar llechwedd hefyd, a gellid sylwi ar y dwylo geirwon yn troi dalennau’r llyfrau ail-law yn boenus o barchus. Gystal oedd y mynd ar lyfrau, yn wir, fel y deuai llyfrwerthwyr o dref Dinbych a Wrecsam, hyd yn oed, i Farchnad Fethesda bob “Sadwrn Setlo” gyda’u troliau o gyfrolau. Diwinyddiaeth, gan fwyaf, brynid, ac yr oedd mynd mawr ar “Addysg Chambers i'r Bobl” mewn rhannau misol, ond y mae casgliad o farddoniaeth Dewi Havhesp yn y ty acw a brynodd genethig ruddgoch, lygadog, sawl blynedd yn ol ym Marchnad Bethesda ar “Sadwrn Setlo”.

Adweinid rhai o’r gweithwyr fel Rwsiaid, er mai dychymyg yr ardalwyr a luniodd y disgrifiad, mae’n debyg. Gwerthent hwy ddarluniau Beiblaidd, a rhyfeddol oedd y prynu o fis i fis ar y rhain. Gwerthwr cyson arall ydoedd yr hen wraig hirhoedlog a safai uwchben casgeniad o afalau o flaen capel mawr Bethesda. Gyda’r nos goleuai hi lusern a llwifiai honno yn y gwynt nes gwneuthur golwg dewines o’r cysgodion arni. Ond pa beth bynnag arall a brynasai’r chwarelwyr yn y farchnad cyn troi adref ymwrolai am bwys o sosej. Hwn oedd danteithion y mis. Yr oedd cyn bwysiced a thwrci’r Nadolig i'r Sais.

Tua’r prynhawn symudai trwst masnach o’r farchnad. Yr oedd yr arian erbyn hyn yn y tai. Yn awr deuai’r Gwyddyl gyda’u potiau pridd o ddrws i ddrws; felly’r tinceriaid i werthi piseri a thyniau. Twm Bolwin ydoedd meistr y grefft sytel hon. Fel ei gydweithwyr, cariau ef ei dyniau mewn cylch ar ei gefn, a hysbysai ei ddynesiad trwy gerdded yn unig. Dyma nawr y dyn gwerthu esgidia’. Gosodai ef ei nwyddau ar raff nes gwnaed necles fawr o gylch ei wddf. O’i ol hefyd deuai’r brethynwyr pwyllog a’r Iddew croenfelyn, modrwyog, gyda’i fargeinion gloyew.

Yr oedd sŵn yn ogystal a swyn i “Sadwrn Setlo”. Cawsai pob plentyn yn y fro ei “egar-rug”, sef math ar organ geg swnfawr. Ar y diwrnod arbennig hwn, ymhellach, yr oedd rhyddid i'r hogiau fynd i Fangor, a aros tan y trên olaf am naw o’r gloch! Arhosai rhai yn hwyrach na hynny, a chlywid eu sŵn wrth ddod adre ar hyd y ffordd bost hyd oriau man y bore, rhai yn feddw a llawen, eraill yn flin a distaw.

Areithio

Ym Methesda ei hunan dechreuai pethau ail-fywiogu tua chwech o’r gloch. Caed areithiau hudawl gan werthwyr llestri rhad ger gorsaf y rheilffordd. Ger Lon Pab byddai hen greadur yn gwerthu eli gwella corn a chyffuriau at dyfu gwallt. Hwn oedd areuthiwr y mudiad, megis. Tyrrai pobl i wrando arno heb feddwl am brynu dim o’i nwyddau. Medrai dynnu dannedd, a tharani sialens telai fil o bunnau i'r neb a brofai iddo beri poen neu anaf wrth yr alwedigaeth hon.

Yma ac acw ar yr heol clywid canwyr baledi a cherddi. Dic Dywyll a’r enwocach Dic Aberdaron ydoedd y ffefriaid, er yr oedd arddeliad anghyffredin ar ddeuawdwyr o rywle yn Sir Ddinbych-un main a thal yn canu bas trwm a coeth, un arall bychan tew yn meddu llais tenor hyfryd a theimladwy. Pinacl ei rhaglen oedd datganiad dagreuol o’r gan “Y Bachgen foddodd yn ymyl y lan”. Yn yr haf deuai cwmni o wladwyr a pholyn Mai ganddynt i ddawnsio’r haf i mewn. Gyda hwy byddai Brenhines Mai a’i thylwyth teg yn prancio a chanu mewn cylch. Y prif atyniad i'r plant fodd bynnag, oedd Eidalwr tal yn chware organ-law a mwnci bach spriws mewn gwasgod goch a botymau melyn arni, a het fefar frown, bluog, yn casglu’r ceiniogau.

Y Ddwy Seindorf

Yr oedd dwy seindorf ym Methesda yr adeg honno, a mynai’r ddwy gyfrannu o’u celfyddyd i rialtwch “Sadwrn Setlo”. Ymarferai Band y Chwarel mewn tafarn, a buan y sefydlwyd seindorf arall o dan nawdd Gymdeithas Dirwestol yn groes iddynt.

Ymdeithiau’r ddau fand i fyny ac i lawr y brif heol gyda’r nos, ac nid anaml y caed y ddau yn chware dwy gymdeithas wahanol a setlo’r cwestiwn blaenoriaeth trwy rym dyrnau. Melysach, hwyrach ydoedd miwsig y delyn ar nos “Sadwrn Setlo”. Y mae ardalwyr hyd heddiw yn gampwyr ar ganu penillion yn null y Gogledd. Gelwid un gwetsy yn Dafarn y Delyn gan fod ynddi delynor medrus ac enwog.

Yn ôl pob hanes, byddai cryn lawer o ymladd ar y stryd bob nos “Sadwrn Setlo” gan fod y tafarndai yn agored tan un ar ddeg yr hwyr, a’r heddwas unig heb fod yn rhy barod i ymyrryd. Ond fore Sul drannoeth byddair fro mor dawel a chwaethus a briallen a phawb yn ei le yn y capel, y stondinau wedi eu clirio i ffwrdd, y teganau wedi eu gosod ar y dreser, yr hwyl wedi ei roddi heibio-am fis arall.

Western Mail

28/12/1928

Owner:
LleCHI LleNI
Crëwr:
Western Mail 28/12/1928
Gwybodaeth drwydded
Western Mail 28/12/1928
Copyright Details:
2024
Eitem wedi’i llwytho:
28/11/2024
Date originally created:
29/11/2024
Gwelediadau:
307
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment