Skip to main content

Chwarelau Ffestiniog [cerdd]

Disgrifiadau

CHWARELAU FFESTINIOG Chwarelau Ffestiniog, glws haenau glas enwog,At dywydd gwlyb tesog, dwf lechog do clos;O fwrw diferyn, ni esgyn well plisgyn,Wna’n gorn i dyddyn mwy didos. Gwell ichwi gael llechen i'w dodi’n glyd aden,Mandraesiog yw’r fricsen a’r deilsen yn do;Ebrwyddod rhy’r priddyn a’r gawodau,Ceir gwedynPob defnyn glaw trwyddyn yn trieddio. Y parc enwir gynta, Mr Kellow a’i gweithia,Ei rwbel adawa’n ei chylia, fodd chwith,Ond yng nghroesa ei llechen, a’i beiriant di-angenAil mellten yn drylen y’i drilith. Pant Mawr yw Mwlch Stwlan, Y rhosydd, a’r Wrysgan,Cwmorthin, Nyth Gyfran, yn hepian mae hi (ar stop).Yr Oakeleys tri uchder, Top, Middle a Lower,Tan ddaear y gweithier eu gwythi. O’r Llechwedd y lluchir fyth gyfoeth a gefir,Ei llechfaen ddarperir, ddadfrigir i'r fro;Y Foty a Bowydd, lle caed y faen newydd,Ro’dd gynnydd drwy’r gweithydd i'w gweithio. Y Diffwys, Maeofferen, Graigddu, Bwlch y Slaten,(Dwy weithia yng ngwythen’r un deisen o dir)Rhiwbach, a Rhiw Fachno, Cwt’bugail daw etoPen Ffridd oll yn gryno geir enwir. Na’r Moelwyn aed heibio, ond enwi raid honno,Na’r C’dwalad fy meio a nwrdio wna o’;Y Drum, Croesddwyafon, a Chwarel y Foelgron,Sy heb weithio’n gobeithio gwell pethe. Un atynt gawn eto- Y Gonglog yw honno,Fel’r oll fu’n anturio a llunio cael llog;A’i cherrig i'w cario, a relwe i'w hwylio,A’u llwytho a’u mudo i Borthmadog. ISALLT HERALD CYMRAEG 20/09/1937.

Owner:
LleCHI LleNI
Crëwr:
ISALLT HERALD CYMRAEG 20/09/1937.
Gwybodaeth drwydded
ISALLT HERALD CYMRAEG 20/09/1937.
Copyright Details:
2024
Eitem wedi’i llwytho:
26/11/2024
Date originally created:
28/11/2024
Gwelediadau:
212
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment