Iaith chwareli llechi Gogledd Cymru.
Disgrifiadau
Mae’r cysylltiad rhwng bywyd unrhyw gymdeithas, ei hiaith hi, a llenyddiaeth yn un hanfodol. Pan fo iaith cymdeithas mewn ystad go naturiol mae hi’n mynegi anghenion a diddordebau bobol sy’n rhan o’r gymdeithas honno, o’u man siarad nhw hyd at myfyrdodau a’u teimladau mwyaf dwys. Fe fydd eu hiaith hefyd yn gallu trafod yr holl bethau sydd yn eu bywydau nhw.........
Mewn iaith fywiog y mae dychymyg y gymdeithas ar waith yn creu enwau, geiriau ac ymadroddion.
Ond, wrth reswm, ‘dydi dychymyg mewn siarad pobol ddim yn dod i bengydag enwau, geiriau ac ymadroddion. Fe geir enghreifftiau o ddefnyddio geiriau mewn ystyron heblaw eu hystyron llythrennol. Er enghraifft, mae ‘cau pen y mwdwl’ yn mynd i olygu ’tynnu pethau i derfyn’; mae ‘cau dau ben llinyn ynghyd’ yn mynd i olygu ‘medru byw ar y modd sydd gennych’. Dyma drosiadaeth ar waith mewn siarad. Mae’r ddau ymadrodd yna, yn hen, mae’n perthyn i fywyd cefn gwlad, bywyd amaethyddol Cymru, fel yr oedd y disgrifiad o gorddi hefyd. Mae’r pethau hyn yn perthyn i gymdeithas o bobol lle’r oedd yr iaith Gymraeg yn unig iaith iddyn nhw, i bob pwrpas, pan nad oed gennych chwi ond un iaith mae’n rhaid i honno ddweud y cwbwl sydd gennych chwi i’w ddweud. Ymadroddion pobol uniaith ydi rhai fel:
Clust cwpan
Talcen ty
Sawdl Clogwyn
Tynu ewinedd o’r blew
Coes iar mewn gwagar (a square peg in a round hole)
Pan oedd pobol o gymdeithas fel hyn yn mynd i fyd diwydiant-y diwydiant glo neu’r diwydiant lechi-roedden nhw’n dal i ddweud yr hyn oedd ganddynt nhw i'w ddweud yn Gymraeg. Mi wn i lawer iawn mwy am iaith Gymraeg y diwydiant llechi nag a wn i am iaith y diwydiant glo, felly o’r chwarel yr ydw i am godi dyrnaid o enghreifftiau i ddangos fod grym creu y Gymraeg yn para mewn byd iwydiannol. Dyma i chwi nifer o enwau:
Creigiwr (un sy’n tynnu’r graig i lawr)
Dadlwythwr (un sy’n dadlwytho’r defnyddiau at wneud llechi)
Dadfachwr (un sy’n gweithio wrth droed yr inclen yn dadfachu wegenni, etc.)
Dyn-tynnu-peth-peryg (un sy’n diogleu lleoedd gweithio mewn chwarel dan ddaear)
Cowjian (math o gyn main a’i flaen yn grwn)
Lli’ gron
Modrwy piwg (cylch i'w rhoi am biwg)
Clusiau wagan (lleoedd i afael mewn wagen)
Limpin (peg sy’n cloi ling/link)
Fe welwch bod yna fenthyciadau ac addysiadau o eiriau Saesneg-cowjan o gouge, limpin o link pin, ond ‘dydi hynny ddim yn nam am fod y fath Gymreigio ar waith yma. Dyma, eto, ichwi ymadroddion o’r gwaith a fagodd ail ystyron:
Colli limpin (gwylltio)
Naddu’n agos i'r drafal (tarfel ydi’r llafn haearn ar fainc naddu llechi)
Wagan gynta’r ryn (am ddigwilydd-dra)
Petai ar ddyn a fagwyd mewn ardal lofaol neu chwarelyddol Gymraeg eisiau sgrifennu am fywyd pobl mewn lle felly gallai wneud hynny/ Gallai wneud hynny gan elwa ar iaith y gymdeithas. Roedd y cymdeithasau amaethyddol a diwydiannol yr ydw i wedi bod yn son amdanyn nhw yn hunangynhaliol i raddau pell iawn o ran diwylliant. Ffordd grand ydi hyn o ddweud eu bod nhw’n gallu eu difyrru eu hunain, bod bron bopeth oedd o ddiddordeb mawr i'r gymdeithas yn digwydd o’i mewn hi ei hun.
Cyfryngau Llenyddiaeth a’r Gymraeg
Darlith Goffa Cecil-Williams, 1975
Gan Gwyn Thomas M.A D.Phil.
Cyhoeddiad:Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, Cyfaint 1976, Dyddiad 1 Ionawr 1976, tudalen 41.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment