Y Loeswyr, Y Crigwyd, Y Prydyddion, Y Jyrmon, Smit a Sponciad.
Disgrifiadau
LOESWYR
Ceir rhai ymadroddion ar dafod yr ardal na ellir eu esbonio ond yng ngoleuni’r chwarel a’i diwydiant......Mewn galwedigaethau eraill yr enw a rhoddir ar y gweithwyr hynny nad ydynt grefftwyr yw labrwyr-labourers. Ond nid dyna air y chwarelwyr am y dosbarth hwn o’u cydweithwyr. Gelwir hwynt yn loeswyr, a’u gwaith yn loesi. Cydnabu’r chwarelwyr ddibyniaeth ei grefft ar yr arloeswyr,n ni all gloddio at gyfoeth y graig heb i'r loeswyr arloesi’r mynydd. Te loeswr ym Methesda, yw paned oedd a’r dail yn nofio ar y wyneb.
Atfogion Hen Chwarelwr.
Cyhoeddiad; Lleufer cylchgrawn Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghymru.
SPONCIAD
Yr oedd Dick Hughes rhyw ddiwrnod eisiau “sponciad”, ac ystyr hynny oedd dianc allan o’r chwarel cyn caniatad; rhyw hanner awr neu dri chwarter awr, cyn pump o’r gloch. Yr oedd yn anodd iawn i wneud hynny er fod digonedd o lwybrau dirgel yn arwain allan o’r chwarel, ond yr oedd y swyddogion yn gadael eu swyddfa tua phedwar o’r gloch i wylio’r llwybrau yma rhag i neb ddianc. Yr oeddynt yn sefyll ar ben y tomennydd ac yn gweld bob man. Ond yr oedd yn rhaid i Dick Hughes gael dianc y noson arbennig yma, ac fe agorodd sach a’i roi tros ei ben, a dim ond ei ddau droed oedd yn golwg. Yna cerdded mwyaf hamddenol rhyw gan llath heibio’r swyddog. Dyna lle’r oedd y swyddog yn holi hwn a’r llall pwy oedd o, ond ni allai neb ei wneud allan, na dweud pwy oedd o, ac felly dihangodd Dick Hughes yn llwyddiannus adref y noson honno hen neb ddyfalu pwy oedd o.
Atfogion Hen Chwarelwr.
Cyhoeddiad; Lleufer cylchgrawn Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghymru.
Y CRIGWYD
Prydydd arall, wedi gorfod cilio o’r fargen am fod yr hwn a weithiai’r fargen agosaf ato, a elwid ‘Y Crigwyd’, yn y rhaff yn taflu craig rydd i lawr gyda throsol, a aeth i orwedd ar blyg bellter diberygl oddi wrth y fargen. Daeth y stiward heibio gan ofyn iddo, “Beth wyt ti da ar dy hyd yn fanna?” I’r hyn yr atebodd mewn munud: “Oni weli- Y Crigwd sydd yn crogi, mewn rhaff gref rhwng nef a ni”
Herald Gymraeg
Llun 9 Ebrill, 1934
Tud. 6
Y PRYDYDDION
Dywedir mai ystyr y gair prydydd yw un parod, ac mai “parodydd” ydoedd yn wreiddiol. Beth bynnag am hynny, y mae’n wir y byddai’r hen brydyddion yn y chwarel yn barod bob amser i lunio pwt o gan neu englyn fel y byddai’r alwad. Y mae llawer o’u penillion yn aros ar gof y rhai a’u clywsant, ac hefyd ar gof y rhai a glywsant eu hailadrodd; megis y rhigwm hen hwnnw. Sydd fel hyn. Yr oedd mewn rhan o’r gwaith a elwir Matilda ddyn yn canu corn ar ben bob awr, ers talwm, ac fe ddigwyddodd i un prydydd gyfarfod un arall bum munud cyn hanner dydd, ac wrth weld clun ei drowsus gwyn wedi maeddu gofynnodd iddo;
“Bedr ei glun bedi o’r gloch?”
Ac atebodd yntau;
“Ymhen pum munud cwta,
Cei glywed, ym Matilda,
Ddyn hefo corn yn rhoddi bloedd,
A’r bobloedd yn mynd i fwyta”
Herald Gymraeg/ Mawrth 21 Gorffennaf 1925
JYRMON
Gair arall ymhlith lliaws o dermau chwarelyddol hanner Saesneg eraill ydyw y gair “jyrmon”. Hen fwl y gwyddais yw’r enw a roddir ar un a fo wedi myned drwy ei brentisiad, ac wedi cael gwaith gan fargeiniwr i naddu wrth y dydd. Y tebyg ydyw mai’r ystyr gyntefig iddo ydoedd “journeyman”, un yn mynd ar siwrnai, neu negeseiwr i'w feist, y bargeiniwr, i fyny ac i lawr y chwarel.
Herald Gymraeg - Sadwrn 24 Ionawr 1987
Tud 43
SMIT
I rybelwr bach y gobaith ar dywydd rhew ac eira oedd y byddai “smit” yn datblygu. Rhoi’r gorau i weithio oherwydd y tywydd- “submitio” i'r elfennau a olygid wrth “smit”
Erthygl gan Ernest Jones Herald Gymraeg
Mawrth 1 Mai 1888.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment