Ymfudo - Mrs Theresa Williams
Disgrifiadau
Mrs Theresa Williams
Y DRYCH 01/05/1919
Y mae gohebydd wedi anfon i ni hanes marwolaeth Mrs Theresa Thorman Williams, gwraig diweddar Richard Williams. Bu farw yn nghartref ei mab, James Williams, 41 Genesee St., ar foreu Mercher, Ebrill 16eg, yn 81 oed. Ganwyd hi yn Lerpwl. Mai 28, 1838, yn ferch i’rdiweddar Roger ac Alice Thorman, a phriodowyd hi i Richard Williams ar Tachwedd 2 1859, gan y Parch, Mr. Price yn eglwys Llandwrog, Sir Gaernarfon. G.C. Bu Mr Williams
farw yn Nghymru bymtheg mlynedd yn ol, yn yr oedran o 73. Daeth Mrs Williams pan yn eneth ieuanc at ei thaid a’i nain i Glynllifon, cartref Lord Newborough a‘i deulu. Yno yr oedd ei thaid yn geidwad yr helwriaeth, ac felly bu am 50 mlynedd. Yr oedd yn ddyddorol iawn i’w chlywed yn adrodd ei hanes pan yn ferch ieuanc yn y Glyn. Mynych darluniai sut y byddai yr hen
Lord yn ymddwyn gyda y dyrfa fechan o wasanaethyddion fyddai o amgylch yr ystad. Gwelid hwy yn dod o bob cyfeiriad erbyn gloch fawr 6 o’r gloch y boreu, a’r un modd, gwelid hwy yn gwahanu wrth gloch yr hwyr. Clywir yr un gloch neu olynydd iddi yn tori ar ddystawrwydd boreu a hwyr misoedd y gauaf, ac yn ystod misoedd yr haf. Da fyddai ganddi adrodd y modd y byddai yr hen Lord yn galw ei thaid, ac yn gorchymyn iddo fyned i saethu carw yn y parc, a hyn a hyn o wningod neu ysgyfarnogod, at wasanaeth y teulu lluosog yn y palas. Byddai poachers weithiau yn cael eu dal ar yr ystad, ond ni byddid yn eu carcharu, ond yn eu rhybuddio i beidio dyfod yno mwy. Gwyr pawb yn mhell ac agos am waliau’r Glyn; yn saith milltir o amgylchoedd, a thu ol iddynt yn uchel gysgodi y ffyrdd coed y glyn. Yno yr oedd digon o le i ysbrydion a bwganod oesoedd i lochesu.
Heb fod ymhell o’r Glyn, yn Penygroes, y bu cartref Mr a Mrs.Richard Williams. Er mai dilledydd wrth ei alwedigaeth oedd Richard Williams, trwy gynildeb ac anturiaeth, gallodd adeiladu llawer o dai, er enghraifft, yn Water St. ac yn Ty’n y Weirglodd. Oherwydd hyn, y gelwir Ty’n y Weirglodd yn ‘Dre’r
nodwydd’ hyd heddyw. Yn yr unigedd ar ol marw ei phriod, gwnaeth y plant i’w mam ddyfod i’r wlad hon, lle’yr oeddynt hwy wedi ei rhagflaenu.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment