Enwau Lleoedd Cymru: Tal-y-bont : Buttington
Enwau Lleoedd Cymru: Tal-y-bont : Buttington
Disgrifiadau
"Butinton1166-7, Botinton 1245, 1289, Botintone 1271, Botenton’ 1278, Botington 1278, 1286, Butyngton 1312, Botyton 1317, Botiton 1344, (i) Dal-y-bont 1440-93, (o) dal ybont 1580-90
Roedd pont dros afon Hafren yn y 13g. ac yn 1478 (mae sôn amdani yn y flwyddyn hynny yn nheithiau William Worcestre) ond mae fersiynau Cymraeg yn ddiweddarach. Buttington yw HSaes. ‘anheddiad Bõta’, yr un ffurf â Boddington (Botingtvne, Botinton’ 1086, Butintune 1185), Caerloyw sef Buttingtune on Sæfyrne, Budigtune iuxta Sauernam lle sefai byddin o Lychlynwyr dros aeaf 894, mae’n debyg. Honna rhai haneswyr mai Tal-y-bont yw’r lle hwn.
Ffynhonnell allanol:
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment