Enwau Lleoedd Cymru: Y Berwyn
Disgrifiadau
Al montem Berrwin 1191, ymynyded Berwyn 1165 (13g. Ddiw.), o uerrwyn c. 1268 (14g. gynnar), da Verwyn, ar Ferwyn fawr 15g., or Ferwyn c.1500, the Berwyn hills 1804-13, Cader Berwyn 1831-2, -, Berwyn 1838
Bar(r) ‘oen, copa’ + ‘gwyn, gwelw, golau’ ac ati, yn ôl pob tebyg: ‘mynydd ac eira arno’, efallai. Y Berwyn ar lafar gwlad, gan gynnwys y fannod a welir hefyd mewn rhai o’r sillafiadau uchod. Dynodir bellach y bryniau rhwng Cyrniau Nod (SH 9827) a’r Foel (SJ 1839), Dinbych; mae’n bosib mai Cadair Berwyn (SJ072327) yn benodol oedd ystyr wreiddiol y Berwyn. Cyfeiria Cadair at ffurf y mynydd, cymh. Cadair Idris, Meirionnydd. Aeth –a- yn Bar- i Ber-, mae’n debyd, o dan ddylanwad –y- yn –wyn (affeithiad’). Mae bryn o’r enw Berwyn (SJ2022) ger Llansanffraid-ym-Mechain.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment